xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Caiff Cymwysterau Cymru osod a chyhoeddi meini prawf cydnabod (“meini prawf cydnabod sy’n benodol i gymhwyster”) i’w cymhwyso ganddo at ddibenion adran 9 (cydnabod corff dyfarnu mewn ffordd sy’n benodol i gymhwyster).
(2)Caiff y meini prawf wneud darpariaeth wahanol ar gyfer—
(a)disgrifiadau gwahanol o gorff dyfarnu;
(b)cymwysterau gwahanol neu ddisgrifiadau gwahanol o gymhwyster.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)
I2A. 6 mewn grym ar 21.9.2015 gan O.S. 2015/1687, ergl. 2 (ynghyd ag erglau. 3-12)