RHAN 8ATODOL
Is-swyddogaethau
53Dyletswydd i roi sylw i bolisi llywodraeth a materion eraill
(1)
Wrth arfer ei swyddogaethau, rhaid i Gymwysterau Cymru roi sylw i unrhyw agweddau ar bolisi llywodraeth, ac i unrhyw faterion eraill, a gyfarwyddir gan Weinidogion Cymru.
(2)
O ran cyfarwyddyd o dan is-adran (1)—
(a)
rhaid iddo gael ei gyhoeddi gan Weinidogion Cymru;
(b)
caniateir iddo gael ei amrywio neu ei ddirymu drwy gyfarwyddyd diweddarach.