RHAN 8ATODOL

Is-swyddogaethau

I1I250Grantiau

1

Caiff Cymwysterau Cymru roi grantiau i berson os yw Cymwysterau Cymru yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny mewn cysylltiad ag unrhyw un neu ragor o swyddogaethau Cymwysterau Cymru.

2

Caniateir i grant o dan yr adran hon gael ei roi yn ddarostyngedig i amodau (gan gynnwys amodau o ran ad-dalu).