RHAN 8ATODOL

Is-swyddogaethau

49Cynllun codi ffioedd

(1)

Caiff Cymwysterau Cymru godi ffioedd sydd i’w talu gan gorff dyfarnu mewn cysylltiad â’r costau y mae’n mynd iddynt mewn perthynas â’r corff hwnnw mewn cysylltiad—

(a)

ag arfer ei swyddogaethau o dan Ran 3 (cydnabod cyrff dyfarnu),

(b)

ag arfer ei swyddogaethau o dan Ran 4 (cymwysterau blaenoriaethol a chymeradwyo cymwysterau),

(c)

ag arfer ei swyddogaethau o dan Ran 5 (dynodi cymwysterau eraill),

(d)

ag arfer ei swyddogaethau o dan adran 46(1) i (c) (adolygu cymwysterau a gymeradwywyd, cymwysterau sydd wedi eu dynodi a chyrff cydnabyddedig), neu

(e)

â delio â chŵyn yn erbyn corff dyfarnu o dan y trefniadau a wneir o dan adran 48.

(2)

Rhaid i unrhyw ffioedd a godir gan Gymwysterau Cymru mewn cysylltiad â’r materion y cyfeirir atynt yn is-adran (1) gael eu codi yn unol â chynllun a luniwyd ac a gyhoeddwyd gan Gymwysterau Cymru sy’n nodi’r ffioedd sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r materion hynny.

(3)

Caiff Cymwysterau Cymru ddiwygio’r cynllun.

(4)

Mae’r cynllun (ac unrhyw gynllun diwygiedig) i’w drin fel pe na bai ond yn cael effaith os caiff ei gymeradwyo gan Weinidogion Cymru.