xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 8LL+CATODOL

Adolygu ac ymchwilLL+C

46Adolygu ac ymchwilLL+C

(1)Caiff Cymwysterau Cymru adolygu’n gyson—

(a)dyfarnu cymwysterau a gymeradwywyd gan gorff cydnabyddedig;

(b)dyfarnu ffurfiau ar gymhwyster sydd wedi eu dynodi o dan adran 29 gan gorff cydnabyddedig;

(c)unrhyw weithgareddau eraill corff cydnabyddedig y mae Cymwysterau Cymru yn ystyried eu bod yn berthnasol i gydnabyddiaeth y corff;

(d)unrhyw agwedd arall ar gymwysterau.

(2)Rhaid i Gymwysterau Cymru adolygu’n gyson y priod rolau sydd ganddo ef a chyrff dyfarnu mewn cysylltiad â system gymwysterau Cymru.

(3)Caiff Cymwysterau Cymru gynnal neu gomisiynu gwaith ymchwil i unrhyw fater sy’n gysylltiedig â chymwysterau.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 46 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)

I2A. 46 mewn grym ar 21.9.2015 gan O.S. 2015/1687, ergl. 2 (ynghyd ag erglau. 3-12)