RHAN 8ATODOL
Adolygu ac ymchwil
46Adolygu ac ymchwil
(1)
Caiff Cymwysterau Cymru adolygu’n gyson—
(a)
dyfarnu cymwysterau a gymeradwywyd gan gorff cydnabyddedig;
(b)
dyfarnu ffurfiau ar gymhwyster sydd wedi eu dynodi o dan adran 29 gan gorff cydnabyddedig;
(c)
unrhyw weithgareddau eraill corff cydnabyddedig y mae Cymwysterau Cymru yn ystyried eu bod yn berthnasol i gydnabyddiaeth y corff;
(d)
unrhyw agwedd arall ar gymwysterau.
(2)
Rhaid i Gymwysterau Cymru adolygu’n gyson y priod rolau sydd ganddo ef a chyrff dyfarnu mewn cysylltiad â system gymwysterau Cymru.
(3)
Caiff Cymwysterau Cymru gynnal neu gomisiynu gwaith ymchwil i unrhyw fater sy’n gysylltiedig â chymwysterau.