xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Caiff Cymwysterau Cymru gydnabod corff dyfarnu o dan ddarpariaethau’r Rhan hon.
(2)Mae Rhan 4 (cymwysterau blaenoriaethol a chymeradwyo cymwysterau) yn gwneud darpariaeth i gorff a gydnabyddir o dan y Rhan hon mewn cysylltiad â dyfarnu cymhwyster wneud cais i Gymwysterau Cymru i ffurf ar y cymhwyster hwnnw gael ei chymeradwyo.
(3)Mae Rhan 5 (dynodi cymwysterau eraill) yn gwneud darpariaeth i gorff a gydnabyddir o dan y Rhan hon mewn cysylltiad â dyfarnu cymhwyster wneud cais i Gymwysterau Cymru i ffurf ar y cymhwyster hwnnw gael ei dynodi o dan adran 29.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)
I2A. 4 mewn grym ar 21.9.2015 gan O.S. 2015/1687, ergl. 2 (ynghyd ag erglau. 3-12)