RHAN 7PWERAU GORFODI CYMWYSTERAU CYMRU

39Cosbau ariannol: apelau

(1)

Caiff corff dyfarnu apelio i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf yn erbyn—

(a)

penderfyniad i osod cosb ariannol ar y corff o dan adran 38;

(b)

penderfyniad o ran swm y gosb.

(2)

Caniateir i apêl o dan yr adran hon gael ei gwneud ar y sail—

(a)

na ddigwyddodd yr achos o dorri amod y gosodwyd cosb ariannol mewn cysylltiad ag ef, neu

(b)

bod y penderfyniad fel arall—

(i)

yn seiliedig ar wall ffeithiol;

(ii)

yn anghywir yn y gyfraith; neu

(iii)

yn afresymol.

(3)

Os gwneir apêl o dan yr adran hon, mae’r gofyniad i dalu’r gosb wedi ei atal dros dro hyd nes y tynnir yr apêl yn ôl neu hyd nes y penderfynir arni.

(4)

O ran apêl o dan yr adran hon caiff y Tribiwnlys—

(a)

tynnu’n ôl y gofyniad i dalu’r gosb;

(b)

cadarnhau’r gofyniad hwnnw;

(c)

amrywio’r gofyniad hwnnw;

(d)

dychwelyd y penderfyniad o ran pa un ai i gadarnhau’r gofyniad i dalu’r gosb, neu unrhyw fater sy’n ymwneud â’r penderfyniad hwnnw, i Gymwysterau Cymru.