xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 7LL+CPWERAU GORFODI CYMWYSTERAU CYMRU

37Pŵer i roi cyfarwyddydauLL+C

(1)Os ymddengys i Gymwysterau Cymru fod corff dyfarnu wedi methu, neu’n debygol o fethu, â chydymffurfio ag amod y mae ei gydnabyddiaeth yn ddarostyngedig iddo, caiff Cymwysterau Cymru gyfarwyddo’r corff i gymryd, neu i beidio â chymryd, camau penodedig, gyda golwg ar sicrhau cydymffurfedd â’r amod.

(2)Os ymddengys i Gymwysterau Cymru fod corff dyfarnu sy’n dyfarnu cymhwyster a gymeradwywyd wedi methu, neu’n debygol o fethu, â chydymffurfio ag amod y mae’r gymeradwyaeth honno yn ddarostyngedig iddo, caiff Cymwysterau Cymru gyfarwyddo’r corff i gymryd, neu i beidio â chymryd, camau penodedig gyda golwg ar sicrhau cydymffurfedd â’r amod.

(3)Cyn rhoi cyfarwyddyd i gorff dyfarnu o dan yr adran hon, rhaid i Gymwysterau Cymru roi hysbysiad i’r corff o dan sylw am ei fwriad i wneud hynny.

(4)Rhaid i’r hysbysiad—

(a)nodi rhesymau Cymwysterau Cymru dros fwriadu rhoi’r cyfarwyddyd;

(b)pennu pa bryd y mae Cymwysterau Cymru yn bwriadu penderfynu pa un ai i roi’r cyfarwyddyd.

(5)Wrth benderfynu pa un ai i roi’r cyfarwyddyd, rhaid i Gymwysterau Cymru roi sylw i unrhyw sylwadau a gyflwynir gan y corff dyfarnu.

(6)Rhaid i gorff dyfarnu gydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir iddo o dan yr adran hon.

(7)O ran cyfarwyddyd o dan yr adran hon—

(a)rhaid iddo fod yn ysgrifenedig;

(b)caniateir iddo gael ei amrywio neu ei ddirymu drwy gyfarwyddyd diweddarach;

(c)mae’n orfodadwy drwy orchymyn mandadol ar gais Cymwysterau Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 37 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)

I2A. 37 mewn grym ar 21.9.2015 gan O.S. 2015/1687, ergl. 2 (ynghyd ag erglau. 3-12)