RHAN 4CYMWYSTERAU BLAENORIAETHOL A CHYMERADWYO CYMWYSTERAU
Ildio cymeradwyaeth a thynnu cymeradwyaeth yn ôl
27Tynnu cymeradwyaeth yn ôl
(1)
Caiff Cymwysterau Cymru dynnu’n ôl gymeradwyaeth o dan y Rhan hon i ffurf ar gymhwyster os yw wedi ei fodloni—
(a)
na chydymffurfiwyd ag amod y mae’r gymeradwyaeth yn ddarostyngedig iddo,
(b)
bod y corff sy’n dyfarnu’r ffurf ar y cymhwyster wedi peidio â chael ei gydnabod mewn cysylltiad â dyfarnu’r cymhwyster o dan sylw, neu
(c)
yn achos cymeradwyaeth i ffurf ar gymhwyster a roddir o dan adran 18 neu 19, fod y cymhwyster o dan sylw wedi dod yn gymhwyster blaenoriaethol cyfyngedig.
(2)
Cyn tynnu cymeradwyaeth yn ôl, rhaid i Gymwysterau Cymru roi i’r corff dyfarnu o dan sylw hysbysiad am ei fwriad i wneud hynny.
(3)
Rhaid i’r hysbysiad—
(a)
esbonio pam y mae Cymwysterau Cymru yn bwriadu tynnu’r gymeradwyaeth yn ôl, a
(b)
pennu pa bryd y mae Cymwysterau Cymru yn bwriadu penderfynu pa un ai i dynnu cymeradwyaeth yn ôl.
(4)
Wrth benderfynu pa un ai i dynnu cymeradwyaeth yn ôl, rhaid i Gymwysterau Cymru roi sylw i unrhyw sylwadau a gyflwynir gan y corff dyfarnu.
(5)
Os yw Cymwysterau Cymru yn penderfynu tynnu cymeradwyaeth yn ôl, rhaid iddo roi hysbysiad i’r corff dyfarnu am y penderfyniad, sy’n pennu’r dyddiad y bydd y gymeradwyaeth yn cael ei thynnu’n ôl pan ddaw i ben (y “dyddiad tynnu’n ôl”).
(6)
Ar unrhyw adeg cyn y dyddiad tynnu’n ôl, caiff Cymwysterau Cymru, gyda chytundeb y corff dyfarnu o dan sylw, roi hysbysiad i’r corff sy’n amrywio’r dyddiad y mae’r gymeradwyaeth i gael ei thynnu’n ôl.
(7)
Pan roddir hysbysiad o dan is-adran (6), mae’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad fel y dyddiad tynnu’n ôl i gael ei drin, o’r dyddiad y rhoddir yr hysbysiad, fel y dyddiad tynnu’n ôl at ddibenion unrhyw hysbysiad pellach o dan yr is-adran honno.
(8)
Wrth benderfynu ar ddyddiad at ddibenion yr adran hon, mae Cymwysterau Cymru i roi sylw i’r angen i osgoi effaith andwyol ar bersonau sy’n ceisio cael, neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddynt geisio cael, y ffurf ar y cymhwyster.