26Darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad ag ildio cymeradwyaethLL+C
(1)Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion cydnabyddiaeth o ildio o dan adran 25.
(2)Os yw Cymwysterau Cymru yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny at ddiben osgoi effaith andwyol ar bersonau sy’n ceisio cael, neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddynt geisio cael, y ffurf ar y cymhwyster o dan sylw, caiff wneud darpariaeth yn y gydnabyddiaeth o ildio sydd o fewn is-adran (3).
(3)Mae darpariaeth o fewn yr is-adran hon yn ddarpariaeth i’r perwyl bod y ffurf ar y cymhwyster, o’r adeg pan ddaw’r dyddiad ildio i ben hyd nes y daw’r dyddiad estyn i ben, i gael ei thrin, at ddibenion a bennir gan Gymwysterau Cymru yn y gydnabyddiaeth o ildio, fel pe bai wedi ei chymeradwyo o dan y Rhan hon gan Gymwysterau Cymru i’w dyfarnu gan y corff o dan sylw.
(4)Os yw Cymwysterau Cymru yn gwneud darpariaeth o fewn is-adran (3)—
(a)rhaid iddo roi rhesymau dros hyn yn y gydnabyddiaeth o ildio, a
(b)mae’r ffurf ar y cymhwyster i gael ei thrin, o’r adeg pan ddaw’r dyddiad ildio i ben, at y dibenion a bennir yn y gydnabyddiaeth o ildio, a hyd nes y daw’r dyddiad estyn i ben, fel pe bai wedi ei chymeradwyo o dan y Rhan hon i’w dyfarnu gan y corff o dan sylw.
(5)Yn yr adran hon—
ystyr “dyddiad estyn” (“extension date”) yw dyddiad a bennir gan Gymwysterau Cymru yn y gydnabyddiaeth o ildio at ddibenion yr adran hon;
ystyr “dyddiad ildio” (“surrender date”) yw’r dyddiad a bennir gan Gymwysterau Cymru yn y gydnabyddiaeth o ildio fel y dyddiad y mae’r gymeradwyaeth i beidio â chael effaith pan ddaw i ben.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 26 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)
I2A. 26 mewn grym ar 21.9.2015 gan O.S. 2015/1687, ergl. 2 (ynghyd ag erglau. 3-12)