RHAN 4CYMWYSTERAU BLAENORIAETHOL A CHYMERADWYO CYMWYSTERAU
Ildio cymeradwyaeth a thynnu cymeradwyaeth yn ôl
25Ildio cymeradwyaeth
(1)
Caiff corff dyfarnu roi hysbysiad i Gymwysterau Cymru ei fod yn dymuno i gymeradwyaeth i ffurf ar gymhwyster a ddyfernir ganddo beidio â chael effaith (“hysbysiad ildio”).
(2)
Rhaid i hysbysiad ildio bennu’r dyddiad y mae’r corff yn dymuno i’r gymeradwyaeth beidio â chael effaith pan ddaw i ben.
(3)
Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i hysbysiad ildio ddod i law, rhaid i Gymwysterau Cymru roi hysbysiad i’r corff dyfarnu (“cydnabyddiaeth o ildio”) sy’n darparu bod y gymeradwyaeth i beidio â chael effaith pan ddaw’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad ildio i ben neu, os yw Cymwysterau Cymru o’r farn ei bod yn briodol, pan ddaw dyddiad gwahanol i ben.
(4)
Os yw’r gydnabyddiaeth o ildio yn pennu bod y gymeradwyaeth i beidio â chael effaith pan ddaw dyddiad gwahanol i’r un a bennir yn yr hysbysiad ildio i ben, rhaid i’r gydnabyddiaeth o ildio roi rhesymau dros hyn.
(5)
Mae’r gymeradwyaeth yn peidio â chael effaith pan ddaw’r dyddiad a bennir yn y gydnabyddiaeth o ildio i ben.
(6)
Wrth benderfynu a yw’r gymeradwyaeth i beidio â chael effaith pan ddaw’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad ildio i ben, neu pan ddaw dyddiad gwahanol i ben, mae Cymwysterau Cymru i roi sylw i’r canlynol—
(a)
yr angen i osgoi effaith andwyol ar bersonau sy’n ceisio cael, neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddynt geisio cael, y ffurf ar y cymhwyster o dan sylw;
(b)
dymuniad y corff y dylai’r gymeradwyaeth beidio â chael effaith pan ddaw’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad ildio i ben.