RHAN 4CYMWYSTERAU BLAENORIAETHOL A CHYMERADWYO CYMWYSTERAU
Darpariaeth atodol sy’n berthnasol i bob cymeradwyaeth
23Cyfnod para’r gymeradwyaeth
(1)
Mae cymeradwyaeth o dan adran 16 neu 17—
(a)
yn cael effaith o ba ddyddiad bynnag a bennir gan Gymwysterau Cymru, a
(b)
i gael ei rhoi am gyfnod cyfyngedig a bennir gan Gymwysterau Cymru wrth roi’r gymeradwyaeth.
(2)
O ran cymeradwyaeth o dan adran 18 neu 19—
(a)
mae’n cael effaith o ba ddyddiad bynnag a bennir gan Gymwysterau Cymru, a
(b)
caniateir iddi gael ei rhoi am gyfnod amhenodol neu am gyfnod cyfyngedig a bennir gan Gymwysterau Cymru wrth roi’r gymeradwyaeth.