RHAN 4CYMWYSTERAU BLAENORIAETHOL A CHYMERADWYO CYMWYSTERAU

Darpariaeth atodol sy’n berthnasol i bob cymeradwyaeth

22Amodau cymeradwyo

(1)

O ran cymeradwyo ffurf ar gymhwyster —

(a)

rhaid iddo fod yn ddarostyngedig i amod o fewn is-adran (2), a

(b)

mae i fod yn ddarostyngedig i unrhyw amodau eraill y caiff Cymwysterau Cymru eu gosod naill ai ar adeg rhoi’r gymeradwyaeth neu wedi hynny.

(2)

Mae amod o fewn yr is-adran hon yn amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i ffurf ar gymhwyster sydd i’w dyfarnu fel cymhwyster a gymeradwywyd gael ei nodi â rhif cymeradwyo.

(3)

Mae rhif cymeradwyo yn rhif (gyda neu heb lythrennau neu symbolau) sydd wedi ei ddyrannu i gymhwyster gan Gymwysterau Cymru.

(4)

Dim ond os yw ffurf ar gymhwyster wedi ei ddyfarnu â’i rhif cymeradwyo yn unol â’r amod a grybwyllir o fewn is-adran (2) y’i dyfernir fel cymhwyster a gymeradwywyd.

(5)

Caiff yr amodau y caiff Cymwysterau Cymru eu gosod wneud darpariaeth wahanol, mewn cysylltiad â dyfarnu’r un cymhwyster, at ddibenion gwahanol (gan gynnwys ymhlith pethau eraill drwy gyfeirio at yr amgylchiadau pan fo cymhwyster yn cael ei ddyfarnu, neu at y personau neu’r disgrifiadau o bersonau y dyfernir cymhwyster iddynt).

(6)

Os yw Cymwysterau Cymru, ar ôl cymeradwyo ffurf ar gymhwyster i’w dyfarnu gan gorff cydnabyddedig—

(a)

yn gosod amodau newydd y mae’r gymeradwyaeth i fod yn ddarostyngedig iddynt, neu

(b)

yn amrywio’r amodau y mae’r gymeradwyaeth i fod yn ddarostyngedig iddynt,

rhaid iddo roi hysbysiad i’r corff dyfarnu am yr amodau newydd (neu’r amodau sydd wedi eu hamrywio).

(7)

Rhaid i’r hysbysiad—

(a)

pennu’r dyddiad y bydd yr amodau newydd (neu’r amodau fel y maent wedi eu hamrywio) yn cael effaith, a

(b)

rhoi rhesymau dros y newid.