xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2LL+CSEFYDLU A PHRIF NODAU CYMWYSTERAU CYMRU

2Sefydlu Cymwysterau CymruLL+C

(1)Mae Cymwysterau Cymru wedi ei sefydlu fel corff corfforaethol.

(2)Mae Atodlen 1 yn cynnwys darpariaeth bellach ynghylch Cymwysterau Cymru.

(3)Mae Atodlen 2 yn gwneud darpariaeth ynghylch trosglwyddo staff ac eiddo i Gymwysterau Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 2(3) mewn grym ar 5.8.2015, gweler a. 60(1)(b)

I2A. 2(1) mewn grym ar 6.8.2015 gan O.S. 2015/1591, ergl. 2(a)

I3A. 2(2) mewn grym ar 6.8.2015 at ddibenion penodedig gan O.S. 2015/1591, ergl. 2(b)