RHAN 4CYMWYSTERAU BLAENORIAETHOL A CHYMERADWYO CYMWYSTERAU

Cymwysterau blaenoriaethol

18Cymeradwyo cymwysterau blaenoriaethol anghyfyngedig

(1)

Mae’r adran hon yn gymwys pan fo cais yn cael ei wneud i Gymwysterau Cymru i ffurf ar gymhwyster blaenoriaethol anghyfyngedig gael ei chymeradwyo gan gorff dyfarnu a gydnabyddir mewn cysylltiad â dyfarnu’r cymhwyster o dan sylw.

(2)

Rhaid i Gymwysterau Cymru ystyried pa un ai i gymeradwyo’r ffurf ar y cymhwyster i’w dyfarnu yng Nghymru gan y corff o dan sylw.

(3)

Caiff Cymwysterau Cymru, os yw’n ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny, gymeradwyo’r ffurf ar y cymhwyster i’w dyfarnu yng Nghymru gan y corff o dan sylw.

(4)

Ond mae hyn yn ddarostyngedig i adran 21 (pŵer i bennu gofynion sylfaenol).