15Pŵer i wneud trefniadau i ddatblygu cymhwyster blaenoriaethol cyfyngedigLL+C
(1)Caiff Cymwysterau Cymru ymrwymo i drefniadau gyda chorff dyfarnu y mae eu heffaith yn darparu i’r corff ddatblygu ffurf newydd ar gymhwyster blaenoriaethol cyfyngedig, gyda golwg ar gymeradwyaeth ragolygol i’r ffurf honno ar y cymhwyster o dan adran 16.
(2)Caiff y trefniadau wneud darpariaeth ynghylch, ymhlith pethau eraill—
(a)y meini prawf i’w bodloni gan y ffurf ar y cymhwyster sydd i’w datblygu;
(b)taliadau i’w gwneud gan Gymwysterau Cymru mewn cysylltiad â’i datblygu.
(3)Rhaid i Gymwysterau Cymru lunio cynllun sy’n gwneud darpariaeth ynghylch gwneud trefniadau o dan yr adran hon.
(4)Rhaid i Gymwysterau Cymru arfer ei swyddogaethau yn unol â’r cynllun.
(5)Rhaid i’r cynllun ddarparu ar gyfer gweithdrefn sy’n agored, yn deg ac yn dryloyw.
(6)Caiff Cymwysterau Cymru ddiwygio’r cynllun.
(7)Rhaid i Gymwysterau Cymru gyhoeddi’r cynllun.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)
I2A. 15 mewn grym ar 21.9.2015 gan O.S. 2015/1687, ergl. 2 (ynghyd ag erglau. 3-12)