RHAN 4CYMWYSTERAU BLAENORIAETHOL A CHYMERADWYO CYMWYSTERAU
Cymwysterau blaenoriaethol
15Pŵer i wneud trefniadau i ddatblygu cymhwyster blaenoriaethol cyfyngedig
(1)
Caiff Cymwysterau Cymru ymrwymo i drefniadau gyda chorff dyfarnu y mae eu heffaith yn darparu i’r corff ddatblygu ffurf newydd ar gymhwyster blaenoriaethol cyfyngedig, gyda golwg ar gymeradwyaeth ragolygol i’r ffurf honno ar y cymhwyster o dan adran 16.
(2)
Caiff y trefniadau wneud darpariaeth ynghylch, ymhlith pethau eraill—
(a)
y meini prawf i’w bodloni gan y ffurf ar y cymhwyster sydd i’w datblygu;
(b)
taliadau i’w gwneud gan Gymwysterau Cymru mewn cysylltiad â’i datblygu.
(3)
Rhaid i Gymwysterau Cymru lunio cynllun sy’n gwneud darpariaeth ynghylch gwneud trefniadau o dan yr adran hon.
(4)
Rhaid i Gymwysterau Cymru arfer ei swyddogaethau yn unol â’r cynllun.
(5)
Rhaid i’r cynllun ddarparu ar gyfer gweithdrefn sy’n agored, yn deg ac yn dryloyw.
(6)
Caiff Cymwysterau Cymru ddiwygio’r cynllun.
(7)
Rhaid i Gymwysterau Cymru gyhoeddi’r cynllun.