ATODLEN 3DARPARIAETH BELLACH YNGHYLCH CYDNABOD CYRFF DYFARNU
I1I217Ildio cydnabyddiaeth
1
Caiff corff cydnabyddedig roi hysbysiad (“hysbysiad idlio”) i Gymwysterau Cymru ei fod yn dymuno peidio â chael ei gydnabod mewn cysylltiad—
a
â dyfarnu cymhwyster penodedig neu ddisgrifiad penodedig o gymhwyster, neu
b
â phob cymhwyster y’i cydnabyddir mewn cysylltiad ag ef.
2
Rhaid i hysbysiad ildio bennu’r dyddiad y mae’r corff yn dymuno peidio â chael ei gydnabod yn y cyswllt o dan sylw pan ddaw i ben.
3
Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i hysbysiad ildio ddod i law, rhaid i Gymwysterau Cymru roi hysbysiad i’r corff cydnabyddedig (“cydnabyddiaeth o ildio”) sy’n darparu bod y corff i beidio â chael ei gydnabod yn y cyswllt hwnnw pan ddaw’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad ildio i ben neu, os yw Cymwysterau Cymru o’r farn ei bod yn briodol, pan ddaw dyddiad gwahanol i ben.
4
Os yw’r gydnabyddiaeth o ildio yn pennu bod y corff i beidio â chael ei gydnabod yn y cyswllt hwnnw pan ddaw dyddiad gwahanol i’r un a bennir yn yr hysbysiad ildio i ben, rhaid i’r gydnabyddiaeth o ildio roi rhesymau dros hyn.
5
Mae cydnabyddiaeth yn y cyswllt o dan sylw yn peidio â chael effaith pan ddaw’r dyddiad a bennir yn y gydnabyddiaeth o ildio i ben.
6
Wrth benderfynu a yw cydnabyddiaeth corff i beidio â chael effaith pan ddaw’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad ildio i ben, neu pan ddaw dyddiad gwahanol i ben, mae Cymwysterau Cymru i roi sylw i’r canlynol—
a
yr angen i osgoi effaith andwyol ar bersonau sy’n ceisio cael, neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddynt geisio cael, y cymhwyster, neu gymhwyster o’r disgrifiad, a bennir yn yr hysbysiad ildio, a
b
dymuniad y corff y dylai’r gydnabyddiaeth beidio â chael effaith pan ddaw’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad ildio i ben.