ATODLEN 3DARPARIAETH BELLACH YNGHYLCH CYDNABOD CYRFF DYFARNU

10Adolygu amodau capio ffioedd

1

Rhaid i Gymwysterau Cymru wneud trefniadau i benderfyniad o dan baragraff 9 i osod amod capio ffioedd fod yn ddarostyngedig i adolygiad ar gais y corff cydnabyddedig o dan sylw.

2

Rhaid i’r trefniadau—

a

pennu’r cyfnod y caniateir gwneud cais am adolygiad ynddo,

b

gwneud darpariaeth i‘r person sy’n cynnal yr adolygiad wneud argymhellion i Gymwysterau Cymru mewn cysylltiad â’r amod capio ffioedd o dan sylw,

c

gwneud darpariaeth i Gymwysterau Cymru, ar ôl ystyried yr argymhellion hynny, naill ai cadarnhau neu wrthdroi ei benderfyniad i osod yr amod, neu newid yr amod o dan sylw, a

d

ei gwneud yn ofynnol i Gymwysterau Cymru hysbysu’r corff o dan sylw am ganlyniad yr adolygiad.

3

Rhaid i’r trefniadau ei gwneud yn ofynnol i berson sy’n annibynnol ar Gymwysterau Cymru gynnal adolygiad.

4

Mae person yn annibynnol ar Gymwysterau Cymru, at y diben hwn—

a

yn achos unigolyn, os nad yw’n aelod o Gymwysterau Cymru nac yn aelod o staff Cymwysterau Cymru;

b

yn achos corff, os nad yw unrhyw un o aelodau’r corff yn aelod o Gymwysterau Cymru nac yn aelod o staff Cymwysterau Cymru.

5

Os yw Cymwysterau Cymru, yn dilyn adolygiad, yn cadarnhau ei benderfyniad i osod amod, neu’n newid yr amod o dan sylw, rhaid iddo roi hysbysiad i’r corff o dan sylw—

a

sy’n nodi’r amod, fel y’i cadarnhawyd neu fel y’i newidiwyd,

b

sy’n rhoi rhesymau dros y cadarnhad neu’r newid, ac

c

sy’n datgan y dyddiad y bydd yr amod, neu’r amod fel y’i newidiwyd, yn cymryd effaith.