xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(a gyflwynwyd gan adran 2)
1(1)Caiff Gweinidogion Cymru wneud un neu ragor o gynlluniau sy’n darparu—LL+C
(a)i staff Llywodraeth Cynulliad Cymru ddod yn aelodau o staff Cymwysterau Cymru, a
(b)i eiddo, hawliau a rhwymedigaethau Gweinidogion Cymru gael eu trosglwyddo i Gymwysterau Cymru.
(2)Mae’r pethau y caniateir eu trosglwyddo o dan gynllun o dan yr Atodlen hon (“cynllun trosglwyddo”) yn cynnwys—
(a)eiddo, hawliau a rhwymedigaethau na ellid eu trosglwyddo fel arall;
(b)eiddo a gaffaelir, a hawliau a rhwymedigaethau sy’n codi, ar ôl i’r cynllun gael ei wneud.
(3)Caiff cynllun trosglwyddo wneud darpariaeth ganlyniadol, atodol, gysylltiedig, drosiannol neu ddarfodol, er enghraifft er mwyn—
(a)creu hawliau, neu osod rhwymedigaethau, mewn perthynas ag eiddo neu hawliau a drosglwyddir;
(b)gwneud darpariaeth ynghylch effaith barhaus pethau a wneir mewn cysylltiad ag unrhyw beth a drosglwyddir;
(c)gwneud darpariaeth ynghylch parhad pethau (gan gynnwys achosion cyfreithiol) sydd yn y broses o gael eu gwneud mewn cysylltiad ag unrhyw beth a drosglwyddir;
(d)gwneud darpariaeth ar gyfer rhannu perchenogaeth eiddo neu ddefnydd ohono;
(e)gwneud darpariaeth i gyfeiriadau at Lywodraeth Cynulliad Cymru neu Weinidogion Cymru mewn offeryn neu ddogfen arall mewn cysylltiad ag unrhyw beth a drosglwyddir gael eu trin fel cyfeiriadau at Gymwysterau Cymru;
(f)gwneud darpariaeth sydd yr un fath â darpariaeth a wneir gan y rheoliadau TUPE, neu sy’n debyg iddi, mewn achos pan na fo’r rheoliadau hynny yn gymwys mewn perthynas â’r trosglwyddo.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 2 para. 1 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(1)(g)
2LL+CCaiff cynllun trosglwyddo ddarparu—
(a)ar gyfer addasu drwy gytundeb;
(b)i addasiadau gael effaith o’r dyddiad y daeth y cynllun gwreiddiol i rym.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 2 para. 2 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(1)(g)
3LL+CAt ddibenion yr Atodlen hon—
(a)mae unigolyn sydd â chyflogaeth yn y gwasanaeth sifil i gael ei drin fel pe bai’n gyflogedig yn rhinwedd contract cyflogaeth, a
(b)mae telerau cyflogaeth yr unigolyn yn y gwasanaeth sifil i gael eu hystyried fel pe baent yn ffurfio telerau’r contract cyflogaeth.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 2 para. 3 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(1)(g)
4LL+CYn yr Atodlen hon—
ystyr “gwasanaeth sifil” (“civil service”) yw gwasanaeth sifil y Wladwriaeth;
ystyr “rheoliadau TUPE” (“TUPE regulations”) yw Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 2006 (OS 2006/246);
mae cyfeiriadau at drosglwyddo eiddo yn cynnwys rhoi les;
mae cyfeiriadau at hawliau a rhwymedigaethau yn cynnwys hawliau a rhwymedigaethau sy’n ymwneud â chontract cyflogaeth.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Atod. 2 para. 4 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(1)(g)
5LL+CRhaid i Weinidogion Cymru osod copi o gynllun trosglwyddo a wneir o dan yr Atodlen hon gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 2 para. 5 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(1)(g)