10(1)Mae’r person cyntaf a benodir yn brif weithredwr i’w benodi gan Weinidogion Cymru—
(a)ar unrhyw delerau ac amodau (gan gynnwys amodau o ran tâl, lwfansau a phensiwn) y caiff Gweinidogion Cymru benderfynu arnynt, a
(b)am gyfnod o hyd at dair blynedd.
(2)Cymwysterau Cymru sydd i benodi (neu ailbenodi) person yn brif weithredwr wedi hynny.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 1 para. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)
I2Atod. 1 para. 10 mewn grym ar 6.8.2015 gan O.S. 2015/1591, ergl. 2(c)