Valid from 06/08/2015
(cyflwynwyd gan adran 2)
ATODLEN 1LL+CCYMWYSTERAU CYMRU
RHAN 1LL+CSEFYDLU CYMWYSTERAU CYMRU
StatwsLL+C
1Nid yw Cymwysterau Cymru i’w ystyried yn was nac yn asiant i’r Goron nac ychwaith i’w ystyried yn mwynhau unrhyw statws, imiwnedd na braint sydd gan y Goron.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 1 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)
AelodaethLL+C
2Mae Cymwysterau Cymru i gynnwys yr aelodau a ganlyn—
(a)person a benodir o dan baragraff 10 yn brif weithredwr Cymwysterau Cymru (“y prif weithredwr”);
(b)person a benodir gan Weinidogion Cymru i gadeirio Cymwysterau Cymru (“y cadeirydd”);
(c)o leiaf wyth a dim mwy na deg person arall a benodir gan Weinidogion Cymru o dan y paragraff hwn (“aelodau arferol”).
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 1 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)
Y cadeirydd ac aelodau arferolLL+C
3(1)Mae’r cadeirydd a’r aelodau arferol yn dal swyddi ac yn eu gadael yn unol â thelerau ac amodau eu penodiadau.
(2)Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r Atodlen hon, Gweinidogion Cymru sydd i benderfynu ar y telerau a’r amodau hynny.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 1 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)
4(1)Mae person wedi ei anghymwyso rhag bod yn gadeirydd neu’n aelod arferol os yw’r person—
(a)yn aelod o gorff dyfarnu a gydnabyddir gan Gymwysterau Cymru neu’n aelod o’i staff;
(b)yn aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru;
(c)yn aelod o Dŷ’r Cyffredin neu Dŷ’r Arglwyddi.
(2)Mae person yn peidio â dal swydd cadeirydd neu aelod arferol os yw’r person hwnnw yn dod yn anghymwys.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Atod. 1 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)
5(1)Mae’r cadeirydd i’w benodi am dymor o hyd at dair blynedd.
(2)Dim ond unwaith y caniateir i berson gael ei ailbenodi yn gadeirydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 1 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)
6(1)Mae aelodau arferol i’w penodi am dymor o hyd at dair blynedd.
(2)Caniateir i berson sydd wedi dal swydd aelod arferol gael ei ailbenodi.
(3)Ni chaiff telerau unrhyw ailbenodiad ganiatáu i aelod arferol ddal swydd am gyfanswm o fwy na chwe blynedd (pa un a yw’r cyfnod hwnnw yn gyfnod parhaus ai peidio).
(4)Ond pan na fo person a benodwyd o’r blaen yn aelod arferol wedi dal swydd o’r fath am gyfnod yn union cyn hynny o dair blynedd neu ragor, mae cyfnod neu gyfnodau blaenorol y person hwnnw fel aelod arferol i’w diystyru at ddibenion is-baragraff (3).
Gwybodaeth Cychwyn
I6Atod. 1 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)
7Caiff y cadeirydd neu aelod arferol ymddiswyddo o’i swydd ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru ac i Gymwysterau Cymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 1 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)
8Caiff Gweinidogion Cymru symud y cadeirydd neu aelod arferol o’i swydd os ydynt wedi eu bodloni nad yw’r person yn gallu cyflawni swyddogaethau’r swydd, neu ei fod yn anaddas i’w cyflawni, neu fel arall yn methu â’u cyflawni.
Gwybodaeth Cychwyn
I8Atod. 1 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)
9Caiff Cymwysterau Cymru, gyda chymeradwyaeth Gweinidogion Cymru, dalu neu wneud darpariaeth ar gyfer talu tâl, lwfansau a phensiwn i berson sy’n gadeirydd neu’n aelod arferol neu sydd wedi bod yn gadeirydd neu’n aelod arferol, neu mewn cysylltiad â hwy.
Gwybodaeth Cychwyn
I9Atod. 1 para. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)
Y prif weithredwr a staff eraillLL+C
10(1)Mae’r person cyntaf a benodir yn brif weithredwr i’w benodi gan Weinidogion Cymru—
(a)ar unrhyw delerau ac amodau (gan gynnwys amodau o ran tâl, lwfansau a phensiwn) y caiff Gweinidogion Cymru benderfynu arnynt, a
(b)am gyfnod o hyd at dair blynedd.
(2)Cymwysterau Cymru sydd i benodi (neu ailbenodi) person yn brif weithredwr wedi hynny.
Gwybodaeth Cychwyn
I10Atod. 1 para. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)
11Ni chaniateir i berson gael ei benodi yn brif weithredwr os yw’r person—
(a)yn aelod o gorff dyfarnu a gydnabyddir gan Gymwysterau Cymru neu’n aelod o’i staff;
(b)yn aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru;
(c)yn aelod o Dŷ’r Cyffredin neu Dŷ’r Arglwyddi.
Gwybodaeth Cychwyn
I11Atod. 1 para. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)
12Nid yw penodiad blaenorol person yn brif weithredwr yn effeithio ar gymhwystra’r person hwnnw i gael ei ailbenodi.
Gwybodaeth Cychwyn
I12Atod. 1 para. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)
13Mae’r prif weithredwr yn aelod o staff Cymwysterau Cymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I13Atod. 1 para. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)
14Caiff Cymwysterau Cymru benodi aelodau eraill o staff.
Gwybodaeth Cychwyn
I14Atod. 1 para. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)
15Ac eithrio mewn perthynas â’r person cyntaf a benodir yn brif weithredwr o dan baragraff 10(1), mae’r canlynol i’w benderfynu gan Gymwysterau Cymru, gyda chymeradwyaeth Gweinidogion Cymru—
(a)telerau ac amodau ei staff (gan gynnwys tâl a lwfansau);
(b)talu neu wneud darpariaeth i dalu pensiwn i aelod o’i staff neu gyn-aelod o’i staff, neu mewn cysylltiad ag ef.
Gwybodaeth Cychwyn
I15Atod. 1 para. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)
16Nid yw gwasanaeth fel aelod o staff Cymwysterau Cymru yn wasanaeth yng ngwasanaeth sifil y Wladwriaeth.
Gwybodaeth Cychwyn
I16Atod. 1 para. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)
PwyllgorauLL+C
17(1)Caiff Cymwysterau Cymru sefydlu pwyllgorau.
(2)Caiff pwyllgor a sefydlir o dan y paragraff hwn—
(a)sefydlu is-bwyllgorau;
(b)diddymu is-bwyllgorau a sefydlir ganddo.
(3)Caiff Cymwysterau Cymru hefyd ddiddymu is-bwyllgorau a sefydlir o dan y paragraff hwn.
(4)Caiff Cymwysterau Cymru dalu tâl a lwfansau i unrhyw berson—
(a)sy’n aelod o bwyllgor neu is-bwyllgor a sefydlir o dan y paragraff hwn, ond
(b)nad yw’n aelod o Gymwysterau Cymru neu’n aelod o’i staff.
Gwybodaeth Cychwyn
I17Atod. 1 para. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)
18(1)Caiff Cymwysterau Cymru, mewn cysylltiad ag arfer ei swyddogaethau, sefydlu pwyllgor ar y cyd ag unrhyw berson.
(2)Yn yr Atodlen hon cyfeirir at bwyllgor a sefydlir o dan y paragraff hwn fel “cyd-bwyllgor”.
(3)Caiff cyd-bwyllgor sefydlu is-bwyllgorau (“cyd-is-bwyllgorau”).
(4)Caiff Cymwysterau Cymru dalu tâl a lwfansau i unrhyw berson—
(a)sy’n aelod o gyd-bwyllgor neu gyd-is-bwyllgor, ond
(b)nad yw’n aelod o Gymwysterau Cymru neu’n aelod o’i staff.
Gwybodaeth Cychwyn
I18Atod. 1 para. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)
DirprwyoLL+C
19(1)Caiff Cymwysterau Cymru ddirprwyo unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau i—
(a)aelod o Gymwysterau Cymru neu aelod o’i staff;
(b)pwyllgor a sefydlir gan Gymwysterau Cymru o dan baragraff 17;
(c)cyd-bwyllgor.
(2)Mae swyddogaeth wedi ei dirprwyo o dan y paragraff hwn i’r graddau ac ar y telerau y mae Cymwysterau Cymru yn penderfynu arnynt.
Gwybodaeth Cychwyn
I19Atod. 1 para. 19 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)
20(1)Caiff pwyllgor a sefydlir gan Gymwysterau Cymru o dan baragraff 17 ddirprwyo unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau i is-bwyllgor a sefydlir ganddo.
(2)Mae swyddogaeth wedi ei dirprwyo o dan y paragraff hwn i’r graddau ac ar y telerau y mae’r pwyllgor yn penderfynu arnynt, ond mae hyn yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddyd a roddir gan Gymwysterau Cymru o ran yr hyn y caiff pwyllgor a sefydlir ganddo ei wneud neu beidio â’i wneud.
Gwybodaeth Cychwyn
I20Atod. 1 para. 20 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)
21(1)Caiff cyd-bwyllgor ddirprwyo unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau i is-bwyllgor a sefydlir ganddo.
(2)Mae swyddogaeth wedi ei dirprwyo o dan y paragraff hwn i’r graddau ac ar y telerau y mae’r cyd-bwyllgor yn penderfynu arnynt, ond mae hyn yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddyd a roddir gan Gymwysterau Cymru a’r person y sefydlodd y cyd-bwyllgor gydag ef o ran yr hyn y caiff y cyd-bwyllgor ei wneud neu beidio â’i wneud.
Gwybodaeth Cychwyn
I21Atod. 1 para. 21 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)
GweithdrefnLL+C
22Caiff Cymwysterau Cymru reoleiddio—
(a)ei weithdrefnau ei hun (gan gynnwys cworwm), a
(b)gweithdrefn (gan gynnwys cworwm) ei bwyllgorau (ac eithrio cyd-bwyllgorau).
Gwybodaeth Cychwyn
I22Atod. 1 para. 22 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)
23Caiff pwyllgor a sefydlir gan Gymwysterau Cymru o dan baragraff 17 reoleiddio gweithdrefn (gan gynnwys cworwm) unrhyw is-bwyllgor a sefydlir ganddo.
Gwybodaeth Cychwyn
I23Atod. 1 para. 23 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)
24Caiff cyd-bwyllgor reoleiddio—
(a)ei weithdrefn ei hun (gan gynnwys cworwm), a
(b)gweithdrefn (gan gynnwys cworwm) unrhyw is-bwyllgor a sefydlir ganddo.
Gwybodaeth Cychwyn
I24Atod. 1 para. 24 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)
25Nid effeithir ar ddilysrwydd trafodion Cymwysterau Cymru, pwyllgor neu is-bwyllgor a sefydlir o dan baragraff 17, neu drafodion cyd-bwyllgor neu gyd-is-bwyllgor, gan—
(a)swydd wag;
(b)penodiad diffygiol.
Gwybodaeth Cychwyn
I25Atod. 1 para. 25 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)
Cofrestr buddiannauLL+C
26(1)Rhaid i Gymwysterau Cymru sefydlu a chynnal system ar gyfer datgan a chofrestru buddiannau ei aelodau.
(2)Rhaid i Gymwysterau Cymru gyhoeddi cofnodion a gofnodir yng nghofrestr buddiannau’r aelodau.
Gwybodaeth Cychwyn
I26Atod. 1 para. 26 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)
Pwerau atodolLL+C
27(1)Caiff Cymwysterau Cymru wneud unrhyw beth y mae’n ystyried ei fod yn angenrheidiol neu’n briodol at ddibenion ei swyddogaethau neu mewn cysylltiad â hwy.
(2)Ond ni chaniateir i Gymwysterau Cymru, heb gymeradwyaeth Gweinidogion Cymru—
(a)caffael neu waredu tir neu unrhyw eiddo arall, am gydnabyddiaeth o swm sydd uwchlaw’r trothwy gwariant;
(b)cael benthyg neu roi benthyg arian.
(3)Y trothwy gwariant yw pa swm bynnag (os oes swm) a bennir mewn hysbysiad a roddir gan Weinidogion Cymru i Gymwysterau Cymru at ddibenion y paragraff hwn.
(4)Caniateir i hysbysiad o dan baragraff (3)—
(a)pennu trothwyon gwahanol ar gyfer mathau gwahanol o dir neu eiddo arall, a
(b)cael ei amrywio neu ei ddirymu gan Weinidogion Cymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I27Atod. 1 para. 27 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)
Adroddiadau blynyddol ac adroddiadau eraillLL+C
28(1)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd pob cyfnod adrodd, rhaid i Gymwysterau Cymru lunio adroddiad (“yr adroddiad blynyddol”) sy’n rhoi manylion am—
(a)sut y mae Cymwysterau Cymru wedi arfer ei swyddogaethau yn ystod y cyfnod (gan gynnwys drwy gyfeirio at ei brif nodau);
(b)gweithgareddau a blaenoriaethau arfaethedig Cymwysterau Cymru am y cyfnod adrodd nesaf.
(2)Mae’r wybodaeth sydd i’w chynnwys o dan is-baragraff (1)(a) yn cynnwys (ymhlith pethau eraill)—
(a)manylion casgliadau unrhyw asesiad a gynhelir gan Gymwysterau Cymru, yn ystod y cyfnod adrodd, o effaith arfer ei swyddogaethau ar—
(i)system gymwysterau Cymru;
(ii)dysgwyr, cyflogwyr a sefydliadau addysg uwch;
(b)manylion o ran sut y mae Cymwysterau Cymru wedi cynnwys rhanddeiliaid wrth arfer ei swyddogaethau yn ystod y cyfnod adrodd;
(c)manylion am unrhyw gasgliadau y daethpwyd iddynt, yn ystod y cyfnod adrodd, o ganlyniad i unrhyw waith ymchwil a gynhaliwyd gan neu ar ran Cymwysterau Cymru o dan adran 46(3).
(3)Yn is-baragraff (2)(b) ystyr “rhanddeiliaid” yw’r personau hynny y mae Cymwysterau Cymru yn ystyried bod ganddynt fuddiant yn arferiad ei swyddogaethau.
(4)Caiff yr adroddiad blynyddol gynnwys unrhyw wybodaeth arall sy’n briodol ym marn Cymwysterau Cymru.
(5)Yn y paragraff hwn ystyr “cyfnod adrodd” yw—
(a)y cyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod y daw adran 2(1) i rym ac sy’n dod i ben â 31 Awst 2016; a
(b)wedi hynny, pob cyfnod olynol o 12 mis.
Gwybodaeth Cychwyn
I28Atod. 1 para. 28 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)
29Rhaid i Gymwysterau Cymru—
(a)gosod copi o’r adroddiad blynyddol gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
(b)cyhoeddi’r adroddiad blynyddol.
Gwybodaeth Cychwyn
I29Atod. 1 para. 29 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)
30Caiff Cymwysterau Cymru, os yw’n briodol yn ei farn ef, lunio a chyhoeddi adroddiadau eraill ar faterion sy’n ymwneud â’i swyddogaethau.
Gwybodaeth Cychwyn
I30Atod. 1 para. 30 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)
AriannuLL+C
31(1)Caiff Gweinidogion Cymru roi grantiau i Gymwysterau Cymru o unrhyw symiau ac yn ddarostyngedig i unrhyw delerau ac amodau (gan gynnwys o ran ad-dalu) y maent yn penderfynu arnynt.
(2)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi unrhyw delerau ac amodau y mae grantiau a wneir o dan is-baragraff (1) yn ddarostyngedig iddynt.
Gwybodaeth Cychwyn
I31Atod. 1 para. 31 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)
Cyfrifon ac archwilioLL+C
32(1)Rhaid i Gymwysterau Cymru gadw cyfrifon priodol a chofnodion priodol mewn perthynas â’r cyfrifon.
(2)Rhaid i Gymwysterau Cymru lunio datganiad o gyfrifon mewn cysylltiad â phob blwyddyn ariannol yn unol â’r cyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru.
(3)Caiff y cyfarwyddydau wneud darpariaeth o ran—
(a)yr wybodaeth sydd i’w chynnwys yn y datganiad;
(b)y modd y mae’r wybodaeth i’w chyflwyno;
(c)y dulliau a’r egwyddorion y mae’r datganiad i gael ei lunio yn unol â hwy;
(d)unrhyw wybodaeth arall sydd i fynd gyda’r datganiad.
(4)Caiff Gweinidogion Cymru amrywio neu ddirymu cyfarwyddyd a roddwyd ganddynt o dan y paragraff hwn.
Gwybodaeth Cychwyn
I32Atod. 1 para. 32 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)
33(1)Heb fod yn hwyrach na 31 Awst ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, rhaid i Gymwysterau Cymru gyflwyno ei ddatganiad o gyfrifon i Archwilydd Cyffredinol Cymru.
(2)Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru—
(a)archwilio’r datganiad o gyfrifon, ei ardystio ac adrodd arno, a
(b)heb fod yn hwyrach na 4 mis ar ôl i’r datganiad gael ei gyflwyno, gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gopi o’r datganiad ardystiedig a’r adroddiad.
Gwybodaeth Cychwyn
I33Atod. 1 para. 33 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)
34Ym mharagraffau 32 a 33 ystyr “blwyddyn ariannol” yw—
(a)y cyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod y daw adran 2(1) i rym ac sy’n dod i ben â’r 31 Mawrth a ganlyn;
(b)wedi hynny, pob cyfnod olynol o 12 mis.
Gwybodaeth Cychwyn
I34Atod. 1 para. 34 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)
Cynnal ymchwiliadau i’r defnydd o adnoddauLL+C
35(1)Caiff Archwilydd Cyffredinol Cymru gynnal ymchwiliadau i ddarbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd y defnydd sydd wedi ei wneud o adnoddau wrth gyflawni swyddogaethau Cymwysterau Cymru.
(2)Nid yw is-baragraff (1) i’w ddehongli fel pe bai’n rhoi’r hawl i Archwilydd Cyffredinol Cymru gwestiynu rhinweddau amcanion polisi Cymwysterau Cymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I35Atod. 1 para. 35 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)
RHAN 2LL+CDIWYGIADAU CANLYNIADOL
Valid from 21/09/2015
Deddf Safonau Gofal 2000 (p.14)LL+C
36Yn Atodlen 2A i Ddeddf Safonau Gofal 2000 (personau sy’n ddarostyngedig i adolygiad gan y comisiynydd o dan adran 72B), ar ôl paragraff 10, mewnosoder—
“10AQualifications Wales.”
Gwybodaeth Cychwyn
I36Atod. 1 para. 36 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)
Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (p.36)LL+C
37Yn Rhan 6 o Atodlen 1 i Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (cyrff a swyddi cyhoeddus eraill: cyffredinol), yn y man priodol mewnosoder—
“Qualifications Wales.”
Gwybodaeth Cychwyn
I37Atod. 1 para. 37 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)
Valid from 21/09/2015
Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 (p.10)LL+C
38Yn Atodlen 3 i Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 (ymchwilio i gwynion etc: awdurdodau rhestredig), o dan yr is-bennawd “Education and training”, ar y diwedd mewnosoder—
“Qualifications Wales.”
Gwybodaeth Cychwyn
I38Atod. 1 para. 38 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)
Valid from 21/09/2015
Deddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006 (p.30)LL+C
39Yn Atodlen 2 i Ddeddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006 (personau y mae eu swyddogaethau yn ddarostyngedig i adolygiad o dan adran 3), o dan yr is-bennawd “Education and training”—
(a)hepgorer y cofnod “The Qualifications, Curriculum and Assessment Authority for Wales”, a
(b)ar y diwedd mewnosoder—
“Qualifications Wales.”
Gwybodaeth Cychwyn
I39Atod. 1 para. 39 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)
Valid from 21/09/2015
Deddf Cydraddoldeb 2010 (p.15)LL+C
40Yn Rhan 2 o Atodlen 19 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (awdurdodau cyhoeddus sy’n ddarostyngedig i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus: awdurdodau Cymreig perthnasol), o dan yr is-bennawd “Other educational bodies”, ar y diwedd mewnosoder—
“Qualifications Wales.”
Gwybodaeth Cychwyn
I40Atod. 1 para. 40 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)
