xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 8LL+CATODOL

Gweithgareddau masnacholLL+C

45Darparu gwasanaethau etc gan Gymwysterau CymruLL+C

(1)Caiff Cymwysterau Cymru, ar sail fasnachol, ddarparu gwasanaethau ymgynghori a gwasanaethau eraill mewn cysylltiad ag unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau neu unrhyw fater arall sy’n ymwneud â chymwysterau.

(2)Caniateir i wasanaethau gael eu darparu o dan yr adran hon ar y telerau hynny ac yn ddarostyngedig i’r amodau hynny (os oes telerau ac amodau) y caiff Cymwysterau Cymru benderfynu arnynt, gan gynnwys (ymhlith pethau eraill) o ran ffioedd a godir gan Gymwysterau Cymru.

(3)Caiff Cymwysterau Cymru, gyda chymeradwyaeth Gweinidogion Cymru, ffurfio cwmni i ddarparu gwasanaethau o dan yr adran hon.

(4)Cymwysterau Cymru sydd i fod yr unig aelod o unrhyw gwmni a ffurfir o dan is-adran (3).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 45 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)

I2A. 45 mewn grym ar 21.9.2015 gan O.S. 2015/1687, ergl. 2 (ynghyd ag erglau. 3-12)

Adolygu ac ymchwilLL+C

46Adolygu ac ymchwilLL+C

(1)Caiff Cymwysterau Cymru adolygu’n gyson—

(a)dyfarnu cymwysterau a gymeradwywyd gan gorff cydnabyddedig;

(b)dyfarnu ffurfiau ar gymhwyster sydd wedi eu dynodi o dan adran 29 gan gorff cydnabyddedig;

(c)unrhyw weithgareddau eraill corff cydnabyddedig y mae Cymwysterau Cymru yn ystyried eu bod yn berthnasol i gydnabyddiaeth y corff;

(d)unrhyw agwedd arall ar gymwysterau.

(2)Rhaid i Gymwysterau Cymru adolygu’n gyson y priod rolau sydd ganddo ef a chyrff dyfarnu mewn cysylltiad â system gymwysterau Cymru.

(3)Caiff Cymwysterau Cymru gynnal neu gomisiynu gwaith ymchwil i unrhyw fater sy’n gysylltiedig â chymwysterau.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 46 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)

I4A. 46 mewn grym ar 21.9.2015 gan O.S. 2015/1687, ergl. 2 (ynghyd ag erglau. 3-12)

Is-swyddogaethauLL+C

47Datganiad polisi a datganiad ynghylch ymgynghoriLL+C

(1)Rhaid i Gymwysterau Cymru lunio datganiad o’i bolisi (“datganiad polisi”) mewn cysylltiad ag arfer ei swyddogaethau o dan—

(a)Rhan 3 (cydnabod cyrff dyfarnu);

(b)Rhan 4 (cymwysterau blaenoriaethol a chymeradwyo cymwysterau);

(c)Rhan 5 (dynodi cymwysterau eraill);

(d)Rhan 7 (pwerau gorfodi Cymwysterau Cymru);

(e)adran 45 (darparu gwasanaethau etc gan Gymwysterau Cymru);

(f)adran 46(1) (adolygiadau).

(2)Rhaid i’r datganiad polisi gynnwys gwybodaeth o ran—

(a)yr amgylchiadau pan fo cydnabyddiaeth o gorff dyfarnu yn debygol o gael ei gwneud yn ddarostyngedig i amod arbennig;

(b)y materion sy’n debygol o gael eu hystyried gan Gymwysterau Cymru wrth benderfynu pa un ai i ddynodi ffurf ar gymhwyster o dan adran 29, wrth benderfynu ar y cyfnod y mae dynodiad o’r fath i gael effaith ar ei gyfer ac wrth benderfynu pa un ai i ddirymu dynodiad o’r fath;

(c)y meini prawf sy’n debygol o gael eu cymhwyso gan Gymwysterau Cymru wrth benderfynu a yw’n briodol mewn unrhyw achos osod amod capio ffioedd er mwyn sicrhau gwerth am arian;

(d)y materion sy’n debygol o gael eu hystyried gan Gymwysterau Cymru wrth benderfynu ar y terfyn a bennir mewn amod capio ffioedd;

(e)cyfnod para tebygol amod capio ffioedd;

(f)yr amgylchiadau pan fo cyfarwyddyd yn debygol o gael ei roi i gorff dyfarnu yn unol ag amod trosglwyddo, a thestun tebygol unrhyw gyfarwyddyd a roddir yn unol ag amod trosglwyddo;

(g)y materion sy’n debygol o gael eu hystyried gan Gymwysterau Cymru wrth benderfynu pa un ai i wneud taliad i gorff dyfarnu o dan baragraff 15 o Atodlen 3, ac wrth benderfynu ar swm unrhyw daliad o’r fath;

(h)yr amgylchiadau a’r adegau pan fo amodau arbennig yn debygol o gael eu hadolygu neu eu diwygio, a’r ffactorau sy’n debygol o gael eu hystyried mewn unrhyw adolygiad neu ddiwygiad;

(i)yr amgylchiadau pan fo Cymwysterau Cymru yn debygol o osod cosb ariannol o dan adran 38;

(j)y ffactorau y mae Cymwysterau Cymru yn debygol o’u hystyried wrth benderfynu ar swm cosb sydd i’w osod o dan yr adran honno.

(3)Rhaid i Gymwysterau Cymru hefyd lunio datganiad sy’n nodi—

(a)yr amgylchiadau pan fo Cymwysterau Cymru yn bwriadu cynnal ymgynghoriad mewn cysylltiad ag arfer unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau;

(b)ym mha fodd y mae’n bwriadu cynnal ymgynghoriad.

(4)Rhaid i Gymwysterau Cymru adolygu’r datganiadau a lunnir o dan yr adran hon yn gyson, ac os yw’n ystyried ei bod yn briodol o ganlyniad i adolygiad, lunio datganiadau diwygiedig.

(5)Rhaid i Gymwysterau Cymru gyhoeddi unrhyw ddatganiad neu ddatganiad diwygiedig a lunnir o dan yr adran hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 47 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)

I6A. 47 mewn grym ar 21.9.2015 gan O.S. 2015/1687, ergl. 2 (ynghyd ag erglau. 3-12)

48CwynionLL+C

(1)Rhaid i Gymwysterau Cymru wneud trefniadau ar gyfer ymdrin â chwynion a wneir mewn cysylltiad—

(a)ag arfer ei swyddogaethau;

(b)â dyfarnu cymwysterau a gymeradwywyd gan gorff cydnabyddedig;

(c)â dyfarnu ffurfiau ar gymhwyster sydd wedi eu dynodi o dan adran 29 gan gorff cydnabyddedig;

(d)ag unrhyw weithgareddau eraill corff cydnabyddedig y mae Cymwysterau Cymru yn ystyried eu bod yn berthnasol i gydnabyddiaeth y corff.

(2)Rhaid i Gymwysterau Cymru gyhoeddi’r trefniadau.

(3)Caiff y trefniadau (ymhlith pethau eraill) wneud darpariaeth—

(a)ynghylch y math o gŵyn y maent yn gymwys mewn cysylltiad â hi;

(b)i gŵyn gael ei hatgyfeirio at berson sy’n annibynnol ar Gymwysterau Cymru.

(4)Mae person yn annibynnol ar Gymwysterau Cymru, at y diben hwn—

(a)yn achos unigolyn, os nad yw’n aelod o Gymwysterau Cymru nac yn aelod o staff Cymwysterau Cymru;

(b)yn achos corff, os nad yw unrhyw un o aelodau’r corff yn aelod o Gymwysterau Cymru nac yn aelod o staff Cymwysterau Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 48 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)

I8A. 48 mewn grym ar 21.9.2015 gan O.S. 2015/1687, ergl. 2 (ynghyd ag erglau. 3-12)

49Cynllun codi ffioeddLL+C

(1)Caiff Cymwysterau Cymru godi ffioedd sydd i’w talu gan gorff dyfarnu mewn cysylltiad â’r costau y mae’n mynd iddynt mewn perthynas â’r corff hwnnw mewn cysylltiad—

(a)ag arfer ei swyddogaethau o dan Ran 3 (cydnabod cyrff dyfarnu),

(b)ag arfer ei swyddogaethau o dan Ran 4 (cymwysterau blaenoriaethol a chymeradwyo cymwysterau),

(c)ag arfer ei swyddogaethau o dan Ran 5 (dynodi cymwysterau eraill),

(d)ag arfer ei swyddogaethau o dan adran 46(1) i (c) (adolygu cymwysterau a gymeradwywyd, cymwysterau sydd wedi eu dynodi a chyrff cydnabyddedig), neu

(e)â delio â chŵyn yn erbyn corff dyfarnu o dan y trefniadau a wneir o dan adran 48.

(2)Rhaid i unrhyw ffioedd a godir gan Gymwysterau Cymru mewn cysylltiad â’r materion y cyfeirir atynt yn is-adran (1) gael eu codi yn unol â chynllun a luniwyd ac a gyhoeddwyd gan Gymwysterau Cymru sy’n nodi’r ffioedd sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r materion hynny.

(3)Caiff Cymwysterau Cymru ddiwygio’r cynllun.

(4)Mae’r cynllun (ac unrhyw gynllun diwygiedig) i’w drin fel pe na bai ond yn cael effaith os caiff ei gymeradwyo gan Weinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 49 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)

I10A. 49 mewn grym ar 21.9.2015 gan O.S. 2015/1687, ergl. 2 (ynghyd ag erglau. 3-12)

50GrantiauLL+C

(1)Caiff Cymwysterau Cymru roi grantiau i berson os yw Cymwysterau Cymru yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny mewn cysylltiad ag unrhyw un neu ragor o swyddogaethau Cymwysterau Cymru.

(2)Caniateir i grant o dan yr adran hon gael ei roi yn ddarostyngedig i amodau (gan gynnwys amodau o ran ad-dalu).

Gwybodaeth Cychwyn

I11A. 50 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)

I12A. 50 mewn grym ar 21.9.2015 gan O.S. 2015/1687, ergl. 2 (ynghyd ag erglau. 3-12)

51Darparu gwybodaeth neu gyngorLL+C

Os gofynnir iddo wneud hynny gan Weinidogion Cymru, rhaid i Gymwysterau Cymru ddarparu unrhyw wybodaeth neu gyngor i Weinidogion Cymru, ar faterion sy’n ymwneud ag unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau, a bennir yn y cais.

Gwybodaeth Cychwyn

I13A. 51 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)

I14A. 51 mewn grym ar 21.9.2015 gan O.S. 2015/1687, ergl. 2 (ynghyd ag erglau. 3-12)

52CydweithioLL+C

Caiff Cymwysterau Cymru gydweithio â pherson arall os yw Cymwysterau Cymru yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny mewn cysylltiad ag unrhyw un neu ragor o swyddogaethau Cymwysterau Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I15A. 52 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)

I16A. 52 mewn grym ar 21.9.2015 gan O.S. 2015/1687, ergl. 2 (ynghyd ag erglau. 3-12)

53Dyletswydd i roi sylw i bolisi llywodraeth a materion eraillLL+C

(1)Wrth arfer ei swyddogaethau, rhaid i Gymwysterau Cymru roi sylw i unrhyw agweddau ar bolisi llywodraeth, ac i unrhyw faterion eraill, a gyfarwyddir gan Weinidogion Cymru.

(2)O ran cyfarwyddyd o dan is-adran (1)—

(a)rhaid iddo gael ei gyhoeddi gan Weinidogion Cymru;

(b)caniateir iddo gael ei amrywio neu ei ddirymu drwy gyfarwyddyd diweddarach.

Gwybodaeth Cychwyn

I17A. 53 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)

I18A. 53 mewn grym ar 21.9.2015 gan O.S. 2015/1687, ergl. 2 (ynghyd ag erglau. 3-12)

54Cyflawni gweithgareddau rheoleiddiol gan Gymwysterau CymruLL+C

(1)Rhaid i Gymwysterau Cymru roi sylw i’r egwyddorion yn is-adran (2) wrth gyflawni ei swyddogaethau o dan—

(a)Rhan 3 (cydnabod cyrff dyfarnu);

(b)Rhan 4 (cymwysterau blaenoriaethol a chymeradwyo cymwysterau);

(c)Rhan 7 (pwerau gorfodi Cymwysterau Cymru);

(d)adran 46(1)(a) i (c) (adolygu cymwysterau a gymeradwywyd, cymwysterau sydd wedi eu dynodi a chyrff cydnabyddedig);

(e)adran 48 (cwynion).

(2)Yr egwyddorion yw—

(a)y dylid cyflawni gweithgareddau rheoleiddiol mewn ffordd sy’n dryloyw, yn atebol, yn gymesur ac yn gyson, a

(b)mai dim ond at achosion pan fo angen gweithredu y dylid targedu gweithgareddau rheoleiddiol.

Gwybodaeth Cychwyn

I19A. 54 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)

I20A. 54 mewn grym ar 21.9.2015 gan O.S. 2015/1687, ergl. 2 (ynghyd ag erglau. 3-12)