RHAN 4CYMWYSTERAU BLAENORIAETHOL A CHYMERADWYO CYMWYSTERAU
Meini prawf cymeradwyo
I120Meini prawf cymeradwyo
1
Rhaid i Gymwysterau Cymru osod a chyhoeddi meini prawf i’w cymhwyso ganddo wrth benderfynu pa un ai i gymeradwyo ffurf ar gymhwyster o dan y Rhan hon.
2
Caiff y meini prawf wneud darpariaeth wahanol drwy gyfeirio at gymwysterau gwahanol neu ddisgrifiadau gwahanol o gymhwyster.
3
Caiff Cymwysterau Cymru ddiwygio’r meini prawf.
4
Os yw Cymwysterau Cymru yn diwygio’r meini prawf, rhaid iddo gyhoeddi’r meini prawf fel y’u diwygiwyd.