RHAN 9DARPARIAETHAU CYFFREDINOL

58Dod i rym

(1)

Daw’r darpariaethau a ganlyn i rym ar y diwrnod y mae’r Ddeddf hon yn cael y Cydsyniad Brenhinol—

(a)

Rhan 1;

(b)

adrannau 56 a 57;

(c)

yr adran hon;

(d)

adran 59.

(2)

Daw’r darpariaethau a ganlyn i rym ar ddiwedd y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau gyda’r diwrnod y mae’r Ddeddf hon yn cael y Cydsyniad Brenhinol—

(a)

adran 55;

(b)

Rhannau 3 i 8, i’r graddau y maent yn angenrheidiol er mwyn galluogi Gweinidogion Cymru i arfer unrhyw swyddogaeth o ran gwneud rheoliadau neu orchmynion drwy offeryn statudol o dan unrhyw ddeddfiad fel a ddiwygir gan y Rhannau hynny.

(3)

Nid oes unrhyw beth yn is-adran (2)(b) yn effeithio ar weithrediad adran 13 o Ddeddf Dehongli 1978 (p. 30) (arfer pwerau yn rhagflaenorol) mewn perthynas â’r Ddeddf hon.

(4)

Mae’r darpariaethau a ganlyn yn dod i rym ar y cyfryw ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn—

(a)

Rhan 2;

(b)

Rhannau 3 i 8, i’r graddau nad ydynt yn cael eu dwyn i rym gan is-adran (2)(b).

(5)

Mae’r pŵer i wneud gorchymyn o dan is-adran (4)—

(a)

yn arferadwy drwy offeryn statudol;

(b)

yn cynnwys pŵer—

(i)

i bennu gwahanol ddyddiau at wahanol ddibenion, a

(ii)

i wneud darpariaeth drosiannol, darpariaeth ddarfodol neu ddarpariaeth arbed mewn cysylltiad â dod â darpariaeth o’r Ddeddf hon i rym.