RHAN 6RHEOLI DATBLYGU ETC
Cau neu wyro llwybrau cyhoeddus
38Cau neu wyro llwybrau cyhoeddus pan wneir cais am ganiatâd cynllunio
(1)
Mae DCGTh 1990 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)
Yn adran 257 (llwybrau troed, llwybrau ceffylau a chilffyrdd cyfyngedig yr effeithir arnynt gan ddatblygiad arall: gorchmynion gan awdurdodau eraill), yn is-adran (1A), hepgorer “in England”.
(3)
Yn adran 259 (cadarnhau gorchmynion)—
(a)
ym mhob un o is-adrannau (1), (1A) a (2), yn lle “Secretary of State” rhodder “appropriate national authority”;
(b)
ar ôl is-adran (4) mewnosoder—
“(5)
The appropriate national authority, for the purposes of this section, is—
(a)
in relation to England, the Secretary of State;
(b)
in relation to Wales, the Welsh Ministers.”