RHAN 6RHEOLI DATBLYGU ETC
Penderfynu ar geisiadau am ganiatâd cynllunio
31Y Gymraeg
(1)
Mae adran 70 o DCGTh 1990 (penderfynu ar geisiadau: ystyriaethau cyffredinol) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)
Yn is-adran (2), ar ôl paragraff (a) mewnosoder—
“(aa)
any considerations relating to the use of the Welsh language, so far as material to the application;”.
(3)
Ar ôl is-adran (2) mewnosoder—
“(2ZA)
Subsection (2)(aa) applies only in relation to Wales.”
(4)
Nid yw’r diwygiadau a wneir gan yr adran hon yn addasu—
(a)
pa un ai a yw sylw i’w roi i unrhyw ystyriaeth benodol o dan is-adran (2) o adran 70 o DCGTh 1990, neu
(b)
y pwysau sydd i’w roi i unrhyw ystyriaeth y rhoddir sylw iddi o dan yr is-adran honno.