4(1)Mae DCGTh 1990 wedi ei diwygio ymhellach fel a ganlyn.
(2)Yn adran 116 (addasu darpariaethau digolledu mewn perthynas â gweithio mwynau etc)—
(a)yn is-adran (3), ar ôl “shall be made” mewnosoder “by the Secretary of State”;
(b)yn is-adran (4)—
(i)ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or (as the case may be) the Welsh Ministers”;
(ii)ar ôl “him” mewnosoder “or them”.
(3)Yn adran 202A (rheoliadau cadw coed: cyffredinol), a fewnosodir gan adran 192(7) o Ddeddf Cynllunio 2008 (p. 29), hepgorer is-adrannau (6) a (7).
(4)Yn adran 208 (apelau yn erbyn hysbysiadau o dan adran 207), hepgorer is-adrannau (4B) a (4C).
(5)Yn adran 303 (ffioedd ar gyfer ceisiadau cynllunio etc)—
(a)yn is-adran (8)—
(i)ar ôl “under this section” mewnosoder “by the Secretary of State”;
(ii)hepgorer y geiriau ar ôl “each House of Parliament”;
(b)hepgorer is-adran (9).
(6)Yn adran 303ZA (ffioedd ar gyfer apelau), a fewnosodir gan adran 200 o Ddeddf Cynllunio 2008—
(a)yn is-adran (6)—
(i)ar ôl “under this section” mewnosoder “by the Secretary of State”;
(ii)hepgorer y geiriau ar ôl “each House of Parliament”;
(b)hepgorer is-adran (7).
(7)Yn adran 321B (darpariaeth arbennig mewn perthynas ag ymchwiliadau cynllunio: Cymru), hepgorer is-adran (6).