xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 1LL+CPANELI CYNLLUNIO STRATEGOL

RHAN 2LL+CDIWYGIADAU PELLACH

Deddf Awdurdodau Lleol (Nwyddau a Gwasanaethau) 1970 (p. 39)LL+C

2Yn adran 1 o Ddeddf Awdurdodau Lleol (Nwyddau a Gwasanaethau) 1970 (awdurdodau lleol yn cyflenwi nwyddau a gwasanaethau i gyrff cyhoeddus), yn is-adran (4), yn y diffiniad o “public body”, ar ôl “any probation trust,” mewnosoder “any strategic planning panel established under section 60D of the Planning and Compulsory Purchase Act 2004,”.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 6.9.2015 at ddibenion penodedig, gweler a. 58(2)(b)

Deddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70)LL+C

3Yn adran 80 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (yr amgylchiadau sy’n anghymhwyso person rhag cael ei ethol a dal swydd fel aelod o awdurdod lleol) ar ôl is-adran (2AA) mewnosoder—

(2AB)A person who is employed by or under the direction of a strategic planning panel is disqualified for being elected or being a member of a local authority which is a constituent local planning authority in relation to that panel (within the meaning of paragraph 3(3) of Schedule 2A to the Planning and Compulsory Purchase Act 2004).

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 6.9.2015 at ddibenion penodedig, gweler a. 58(2)(b)

Deddf Llywodraeth Leol 2000 (p. 22)LL+C

4Yn adran 83 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (ymddygiad aelodau a chyflogeion awdurdodau lleol yng Nghymru: dehongli), ar ôl is-adran (9) mewnosoder—

(9A)A person who is suspended under this Part from being a member of a relevant authority shall also be suspended from being a member of any strategic planning panel in relation to which that authority is a constituent local planning authority, but this subsection does not apply to a person who is partially suspended under this Part.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 6.9.2015 at ddibenion penodedig, gweler a. 58(2)(b)

Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (p. 36)LL+C

5Yn Rhan 2 o Atodlen 1 i Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (awdurdodau cyhoeddus: llywodraeth leol), ar ôl paragraff 33 mewnosoder—

33AA strategic planning panel established under section 60D of the Planning and Compulsory Purchase Act 2004.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 6.9.2015 at ddibenion penodedig, gweler a. 58(2)(b)

Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 (p. 10)LL+C

6Yn Atodlen 3 i Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 (ymchwilio i gwynion etc: awdurdodau rhestredig), o dan yr is-bennawd “Local government, fire and police”, ar y diwedd mewnosoder—

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 1 para. 6 mewn grym ar 6.9.2015 at ddibenion penodedig, gweler a. 58(2)(b)

Deddf Cydraddoldeb 2010 (p. 15)LL+C

7Yn Rhan 2 o Atodlen 19 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (awdurdodau cyhoeddus sy’n ddarostyngedig i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus: awdurdodau Cymreig perthnasol), o dan yr is-bennawd “Local government”, ar y diwedd mewnosoder—

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 1 para. 7 mewn grym ar 6.9.2015 at ddibenion penodedig, gweler a. 58(2)(b)

Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (mccc 1)LL+C

8(1)Mae Atodlen 6 i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (personau sy’n agored i orfod cydymffurfio â safonau: cyrff cyhoeddus etc) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn y tabl, o dan y pennawd “Llywodraeth leol etc”, yn y man priodol mewnosoder—

Paneli cynllunio strategol (“Strategic planning panels”)
  • Safonau cyflenwi gwasanaethau

  • Safonau llunio polisi

  • Safonau gweithredu

  • Safonau hybu

  • Safonau cadw cofnodion.

(3)Ym mharagraff 2, yn y man priodol mewnosoder—

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 1 para. 8 mewn grym ar 6.9.2015 at ddibenion penodedig, gweler a. 58(2)(b)

Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (mccc 4)LL+C

9Yn adran 144 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (taliadau a phensiynau: awdurdodau perthnasol, aelodau etc), yn is-adran (2), ar ôl paragraff (d) mewnosoder—

(da)panel cynllunio strategol (a sefydlwyd o dan adran 60D o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004);.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. 1 para. 9 mewn grym ar 6.9.2015 at ddibenion penodedig, gweler a. 58(2)(b)