ATODLEN 1PANELI CYNLLUNIO STRATEGOL

RHAN 2DIWYGIADAU PELLACH

Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (mccc 1)

8

(1)

Mae Atodlen 6 i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (personau sy’n agored i orfod cydymffurfio â safonau: cyrff cyhoeddus etc) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)

Yn y tabl, o dan y pennawd “Llywodraeth leol etc”, yn y man priodol mewnosoder—

“Paneli cynllunio strategol (“Strategic planning panels”)

  • Safonau cyflenwi gwasanaethau

  • Safonau llunio polisi

  • Safonau gweithredu

  • Safonau hybu

  • Safonau cadw cofnodion”.

(3)

Ym mharagraff 2, yn y man priodol mewnosoder—

““ystyr “panel cynllunio strategol” (“strategic planning panel”) yw panel cynllunio strategol a sefydlwyd o dan adran 60D o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004.”