8Dyletswydd i weithredu strategaethau lleolLL+C
This section has no associated Explanatory Notes
(1)Rhaid i awdurdod lleol, wrth arfer ei swyddogaethau, gymryd pob cam sy’n rhesymol er mwyn cyflawni’r amcanion a bennir yn y strategaeth leol ddiweddaraf ar gyfer ei ardal a gyhoeddwyd.
(2)Rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol y paratôdd yr awdurdod y strategaeth ar y cyd ag ef, wrth arfer ei swyddogaethau, gymryd pob cam sy’n rhesymol er mwyn cyflawni’r amcanion a bennir yn y strategaeth.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 25(3)
I2A. 8 mewn grym ar 4.1.2016 gan O.S. 2015/2019, ergl. 2(d)