Strategaethau lleol
5Dyletswydd i baratoi strategaethau lleol
(1)
Rhaid i awdurdod lleol, a Bwrdd Iechyd Lleol y mae unrhyw ran o’i ardal o fewn ardal yr awdurdod lleol, baratoi, ar y cyd, strategaeth (“strategaeth leol”) ar gyfer ardal yr awdurdod lleol.
(2)
Rhaid i strategaeth leol—
(a)
pennu amcanion y byddant, os cânt eu cyflawni, ym marn yr awdurdod lleol a’r Bwrdd Iechyd Lleol, yn cyfrannu at ymgyrraedd at ddiben y Ddeddf hon;
(b)
pennu o fewn pa gyfnodau y bydd yr awdurdod lleol a’r Bwrdd Iechyd Lleol yn bwriadu cyflawni’r amcanion a bennir;
(c)
dynodi’r camau y mae’r awdurdod lleol a’r Bwrdd Iechyd Lleol yn bwriadu eu cymryd er mwyn cyflawni’r amcanion a bennir.
(3)
Caiff awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd Lleol bennu amcanion sy’n ymwneud ag ardal gyfan yr awdurdod, neu unrhyw ran ohoni.
(4)
Caiff strategaeth leol hefyd gynnwys darpariaeth yn ymwneud â chamau gweithredu penodol y bydd yr awdurdod lleol a’r Bwrdd Iechyd Lleol yn disgwyl i’r canlynol eu cymryd mewn perthynas ag ardal yr awdurdod lleol—
(a)
unrhyw awdurdod cyhoeddus sydd â swyddogaethau y mae modd iddynt gyfrannu at ymgyrraedd at ddiben y Ddeddf hon, neu
(b)
unrhyw gorff gwirfoddol neu berson arall y mae modd i’w weithgareddau gyfrannu at ymgyrraedd at y diben hwnnw.
(5)
Ond mae’n ofynnol cael caniatâd y corff neu’r person o dan sylw cyn cynnwys mewn strategaeth leol unrhyw ddarpariaeth sy’n ymwneud â chamau gweithredu a grybwyllir yn is-adran (4).