Cyffredinol

25Cychwyn

(1)

Daw’r darpariaethau canlynol i rym ar y diwrnod y mae’r Ddeddf hon yn derbyn y Cydsyniad Brenhinol—

  • adran 1;

  • adran 24;

  • yr adran hon;

  • adran 26.

(2)

Daw adran 10 ac adrannau 14 i 21 i rym ddau fis ar ôl y diwrnod y bydd y Ddeddf hon yn derbyn y Cydsyniad Brenhinol.

(3)

Daw gweddill darpariaethau’r Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol.

(4)

Caiff gorchymyn o dan is-adran (3)—

(a)

pennu gwahanol ddyddiau at wahanol ddibenion;

(b)

cynnwys unrhyw ddarpariaeth ddarfodol neu drosiannol y mae Gweinidogion Cymru yn eu hystyried yn briodol.