xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi—
(a)pob cynllun blynyddol a phob adroddiad blynyddol a anfonir atynt gan y Cynghorydd Cenedlaethol, a
(b)pob adroddiad a anfonir atynt gan y Cynghorydd Cenedlaethol, os yw’r adroddiad yn cael ei grybwyll mewn cynllun blynyddol a gymeradwywyd.
(2)Caiff Gweinidogion Cymru gyhoeddi adroddiad a anfonir atynt gan y Cynghorydd Cenedlaethol nas crybwyllir mewn cynllun blynyddol sydd wedi ei gymeradwyo.
(3)Cyn cyhoeddi unrhyw gynllun neu adroddiad, caiff Gweinidogion Cymru hepgor unrhyw ddeunydd ohono y byddai ei gyhoeddi, ym marn Gweinidogion Cymru—
(a)yn annymunol am resymau sy’n ymwneud â diogelwch gwladol,
(b)yn gallu peryglu diogelwch unigolyn, neu
(c)yn gallu niweidio ymchwiliad i drosedd neu erlyniad trosedd.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 23 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 25(3)
I2A. 23 mewn grym ar 5.10.2015 gan O.S. 2015/1680, ergl. 2(h)