Cynghorydd Cenedlaethol

23Cyhoeddi adroddiadau

(1)

Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi—

(a)

pob cynllun blynyddol a phob adroddiad blynyddol a anfonir atynt gan y Cynghorydd Cenedlaethol, a

(b)

pob adroddiad a anfonir atynt gan y Cynghorydd Cenedlaethol, os yw’r adroddiad yn cael ei grybwyll mewn cynllun blynyddol a gymeradwywyd.

(2)

Caiff Gweinidogion Cymru gyhoeddi adroddiad a anfonir atynt gan y Cynghorydd Cenedlaethol nas crybwyllir mewn cynllun blynyddol sydd wedi ei gymeradwyo.

(3)

Cyn cyhoeddi unrhyw gynllun neu adroddiad, caiff Gweinidogion Cymru hepgor unrhyw ddeunydd ohono y byddai ei gyhoeddi, ym marn Gweinidogion Cymru—

(a)

yn annymunol am resymau sy’n ymwneud â diogelwch gwladol,

(b)

yn gallu peryglu diogelwch unigolyn, neu

(c)

yn gallu niweidio ymchwiliad i drosedd neu erlyniad trosedd.