Cynghorydd Cenedlaethol
21Swyddogaethau’r Cynghorydd
(1)
Mae’r Cynghorydd Cenedlaethol i arfer y swyddogaethau canlynol, yn ddarostyngedig i gyfarwyddyd Gweinidogion Cymru—
(a)
cynghori Gweinidogion Cymru ynghylch ymgyrraedd at ddiben y Ddeddf hon neu fynd i’r afael â materion cysylltiedig (gweler is-adran (2));
(b)
darparu cynhorthwy arall i Weinidogion Cymru wrth iddynt ymgyrraedd at ddiben y Ddeddf hon neu fynd i’r afael â materion cysylltiedig;
(c)
gwneud gwaith ymchwil mewn perthynas ag ymgyrraedd at ddiben y Ddeddf hon, mynd i’r afael â materion cysylltiedig neu ymchwilio i weld a yw cam-drin o unrhyw fath yn gysylltiedig yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol ag anghydraddoldeb o unrhyw fath rhwng pobl o wahanol ryw, hunaniaeth o ran rhywedd neu gyfeiriadedd rhywiol;
(d)
darparu cyngor a chynhorthwy arall, gyda cydsyniad Gweinidogion Cymru, i unrhyw berson ar faterion sy’n ymwneud ag ymgyrraedd at ddiben y Ddeddf hon neu fynd i’r afael â materion perthnasol;
(e)
cynhyrchu adroddiadau ar unrhyw fater sy’n berthnasol i ddiben y Ddeddf hon neu fynd i’r afael â materion cysylltiedig.
(2)
Ystyr “mater cysylltiedig” at ddiben is-adran (1) yw camdriniaeth sydd, ym marn y Cynghorydd Cenedlaethol, yn gysylltiedig yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol ag anghydraddoldeb o unrhyw fath rhwng pobl o wahanol ryw, hunaniaeth o ran rhywedd neu gyfeiriadedd rhywiol.
(3)
Os bydd y Cynghorydd Cenedlaethol yn gofyn i awdurdod perthnasol ddarparu gwybodaeth at ddiben arfer unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r Cynghorydd, rhaid i’r awdurdod gydymffurfio â’r cais oni fo’r awdurdod yn ystyried y byddai gwneud hynny—
(a)
yn anghydnaws â dyletswyddau’r awdurdod ei hun, neu
(b)
yn cael effaith andwyol fel arall ar arfer swyddogaethau’r awdurdod.
(4)
Rhaid i awdurdod perthnasol sy’n penderfynu peidio â chydymffurfio â chais o dan is-adran (3) hysbysu’r Cynghorydd Cenedlaethol yn ysgrifenedig am y rhesymau dros y penderfyniad.