Cynghorydd Cenedlaethol
20Cynghorydd Cenedlaethol
(1)
Rhaid i Weinidogion Cymru benodi person fel Cynghorydd Cenedlaethol.
(2)
Mae’r person a benodir yn Gynghorydd Cenedlaethol yn dal ei swydd yn unol â thelerau’r penodiad.
(3)
Caiff Gweinidogion Cymru dalu treuliau, tâl cydnabyddiaeth a lwfansau mewn cysylltiad â’r Cynghorydd Gweinidogol.
(4)
Caiff Gweinidogion Cymru dalu—
(a)
pensiynau mewn cysylltiad â phersonau a fu’n Gynghorydd Gweinidogol, a
(b)
symiau ar gyfer darparu pensiynau neu tuag at ddarparu pensiynau mewn cysylltiad â phersonau a fu’n Gynghorydd Gweinidogol.
(5)
Caiff Gweinidogion Cymru ddarparu i’r Cynghorydd Gweinidogol—
(a)
y cyfryw staff, a
(b)
y cyfryw adeiladau, cyfarpar a chyfleusterau eraill,
ag y mae Gweinidogion Cymru yn eu hystyried yn angenrheidiol ar gyfer arfer swyddogaethau’r Cynghorydd Cenedlaethol.