2Trais yn erbyn menywod a merched
This section has no associated Explanatory Notes
(1)Rhaid i berson sy’n arfer swyddogaethau perthnasol roi sylw (ynghyd â phob mater perthnasol arall) i’r angen i ddileu neu leihau unrhyw ffactorau sy’n—
(a)cynyddu’r risg o drais yn erbyn menywod a merched, neu
(b)gwaethygu effaith trais o’r fath ar ddioddefwyr.
(2)Yn yr adran hon—
ystyr “swyddogaethau perthnasol” (“relevant functions”) yw’r swyddogaethau o dan adrannau 3, 4, 5, 6, 7(2), 8, 10, 11, 15, 16(1), 17, 19, 20, 21, 22(1) a (4), ond nid yw’n cynnwys unrhyw swyddogaethau sy’n arferadwy o dan adran 5 gan berson nad yw’n awdurdod lleol nac yn Fwrdd Iechyd Lleol;
ystyr “trais yn erbyn menywod a merched” (“violence against women and girls”) yw trais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol pan fo’r dioddefwr yn fenywaidd.