Canllawiau a chyfarwyddydau mewn perthynas â diben y Ddeddf hon
19Cyfarwyddydau
(1)
Mae is-adran (2) yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried, mewn perthynas â datganiad polisi a ddyroddir gan awdurdod perthnasol, nad yw polisi amgen yr awdurdod ar gyfer arfer swyddogaethau (yn llwyr neu’n rhannol) yn debygol o gyfrannu at ymgyrraedd at ddiben y Ddeddf hon.
(2)
Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo’r awdurdod perthnasol i gymryd unrhyw gamau sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru at ddiben sicrhau bod yr awdurdod yn arfer swyddogaethau yn unol â’r canllawiau statudol a ddyroddwyd i’r awdurdod yn unol â’r Ddeddf hon.
(3)
Rhaid i awdurdodau perthnasol sy’n ddarostyngedig i gyfarwyddyd o dan yr adran hon gydymffurfio ag ef; mae hyn yn cynnwys cyfarwyddyd i arfer pŵer neu ddyletswydd sy’n dibynnu ar farn yr awdurdod perthnasol.
(4)
Mewn perthynas â chyfarwyddyd o dan yr adran hon—
(a)
rhaid iddo gael ei roi ar ffurf ysgrifenedig;
(b)
caniateir ei amrywio neu ei ddirymu gan gyfarwyddyd pellach;
(c)
mae’n orfodadwy drwy orchymyn gorfodi ar gais Gweinidogion Cymru, neu ar eu rhan.