Canllawiau a chyfarwyddydau mewn perthynas â diben y Ddeddf hon
18Datganiadau polisi: gofynion a phwerau ategol
(1)
Rhaid i ddatganiad polisi a ddyroddir o dan adran 17(2) nodi—
(a)
sut y mae’r awdurdod perthnasol yn bwriadu i swyddogaethau gael eu harfer mewn ffordd wahanol i’r llwybr a nodir yn yn canllawiau statudol, a
(b)
rhesymau’r awdurdod dros fwriadu dilyn y drefn wahanol honno.
(2)
Caiff awdurdod sydd wedi dyroddi datganiad polisi—
(a)
dyroddi datganiad polisi diwygiedig;
(b)
rhoi hysbysiad sy’n dirymu datganiad polisi.
(3)
Rhaid i ddatganiad polisi (neu ddatganiad diwygiedig) ddatgan—
(a)
ei fod yn cael ei ddyroddi o dan adran 17(2), a
(b)
ar ba ddyddiad y bydd yn cael effaith.
(4)
Rhaid i awdurdod sy’n dyroddi datganiad polisi (neu ddatganiad diwygiedig), neu’n rhoi hysbysiad o dan is-adran (2)(b)—
(a)
trefnu i ddatganiad neu hysbysiad gael ei gyhoeddi;
(b)
anfon copi o unrhyw ddatganiad neu hysbysiad at Weinidogion Cymru.