Canllawiau a chyfarwyddydau mewn perthynas â diben y Ddeddf hon

16Ymgynghori a gweithdrefnau Cynulliad Cenedlaethol Cymru

(1)

Cyn dyroddi neu ddiwygio canllawiau statudol, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â pha bersonau bynnag sy’n briodol yn eu barn hwy, ar ddrafft o’r canllawiau.

(2)

Os bydd Gweinidogion Cymru yn dymuno bwrw ymlaen â’r drafft (gydag addasiadau neu hebddynt) rhaid iddynt osod copi o’r drafft gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(3)

Os bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, cyn diwedd y cyfnod o 40 diwrnod, yn penderfynu peidio â chymeradwyo’r drafft o’r canllawiau, ni chaiff Gweinidogion Cymru ei ddyroddi ar ffurf y drafft hwnnw.

(4)

Oni wneir penderfyniad o’r fath cyn diwedd y cyfnod hwnnw, rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi’r canllawiau (neu’r canllawiau diwygiedig) ar ffurf y drafft hwnnw.

(5)

O ran y cyfnod o 40 diwrnod—

(a)

bydd yn dechrau ar y diwrnod y gosodir y drafft gerbron y Cynulliad Cenedlaethol, a

(b)

ni fydd yn cynnwys unrhyw adeg y bydd y Cynulliad Cenedlaethol wedi ei ddiddymu neu wedi cymryd saib am fwy na phedwar diwrnod.

(6)

Nid yw is-adran (3) yn rhwystro gosod drafft newydd o ganllawiau arfaethedig neu ganllawiau diwygiedig arfaethedig gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.