Canllawiau a chyfarwyddydau mewn perthynas â diben y Ddeddf hon
14Ystyr “awdurdod perthnasol”
Yn y Ddeddf hon, ystyr “awdurdod perthnasol” yw—
(a)
awdurdod lleol;
(b)
Bwrdd Iechyd Lleol;
(c)
awdurdod tân ac achub yng Nghymru a gyfansoddwyd gan gynllun o dan adran 2 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p.21), neu gynllun y mae adran 4 o’r Ddeddf honno yn gymwys iddo;
(d)
un o ymddiriedolaethau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a sefydlwyd o dan adran 18 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p.42).