(1)Rhaid i awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd Lleol gyhoeddi, mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol, adroddiad ar y cynnydd a wnaed ganddynt o ran cyflawni’r amcanion a bennir yn eu strategaeth leol.
(2)Pan fo awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd Lleol wedi diwygio eu strategaeth yn ystod y cyfnod y mae’r adroddiad yn ymwneud ag ef, rhaid i’r adroddiad gynnwys esboniad o’r rhesymau dros y diwygiad.
(3)Rhaid i adroddiad o dan yr adran hon gael ei gyhoeddi cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol y mae’r adroddiad yn ymwneud â hi.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 25(3)
I2A. 13 mewn grym ar 4.1.2016 gan O.S. 2015/2019, ergl. 2(e)