Mesur perfformiad tuag at gyflawni diben y Ddeddf hon
13Adroddiadau cynnydd blynyddol gan awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol
(1)
Rhaid i awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd Lleol gyhoeddi, mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol, adroddiad ar y cynnydd a wnaed ganddynt o ran cyflawni’r amcanion a bennir yn eu strategaeth leol.
(2)
Pan fo awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd Lleol wedi diwygio eu strategaeth yn ystod y cyfnod y mae’r adroddiad yn ymwneud ag ef, rhaid i’r adroddiad gynnwys esboniad o’r rhesymau dros y diwygiad.
(3)
Rhaid i adroddiad o dan yr adran hon gael ei gyhoeddi cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol y mae’r adroddiad yn ymwneud â hi.