Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015

12Adroddiadau cynnydd blynyddol gan Weinidogion CymruLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru, mewn cysylltiad â phob blwyddyn ariannol, gyhoeddi adroddiad ar—

(a)y cynnydd a wnaed ganddynt o ran cyflawni’r amcanion yn y strategaeth genedlaethol;

(b)y cynnydd sydd wedi ei wneud tuag at gyflawni diben y Ddeddf hon yng Nghymru gan gyfeirio at y dangosyddion cenedlaethol a gyhoeddir o dan adran 11.

(2)Pan fo Gweinidogion Cymru wedi diwygio’r strategaeth genedlaethol yn ystod y cyfnod y mae’r adroddiad yn ymwneud ag ef, rhaid i’r adroddiad gynnwys esboniad o’r rhesymau dros y diwygiad hwnnw.

(3)Rhaid i unrhyw adroddiad o dan yr adran hon a gyhoeddir yn ystod y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau gyda dyddiad etholiad cyffredinol gynnwys rhagfynegiadau o dueddiadau tebygol yn y dyfodol ac unrhyw ddata a gwybodaeth ddadansoddol arall sy’n ymwneud â diben y Ddeddf hon y mae Gweinidogion Cymru yn eu hystyried yn briodol.

(4)Yn is-adran (3), mae’r cyfeiriad at ddyddiad etholiad cyffredinol yn gyfeiriad at y dyddiad y caiff etholiad cyffredinol arferol ei gynnal o dan adran 3 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) (neu’r dyddiad y byddai’n cael ei gynnal heblaw am adran 5(5) o’r Ddeddf honno).

(5)Rhaid i adroddiad o dan yr adran hon gael ei gyhoeddi a’i osod gerbon y Cynulliad Cenedlaethol cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol y mae’r adroddiad yn ymwneud â hi.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 25(3)

I2A. 12 mewn grym ar 5.10.2015 gan O.S. 2015/1680, ergl. 2(f)