Mesur perfformiad tuag at gyflawni diben y Ddeddf hon
11Dangosyddion cenedlaethol
(1)
Rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)
cyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y gellir eu cymhwyso at y diben o fesur cynnydd tuag at gyflawni diben y Ddeddf hon;
(b)
gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.
(2)
O ran dangosydd cenedlaethol—
(a)
rhaid iddo gael ei fynegi fel gwerth y gellir ei fesur neu nodwedd y gellir ei mesur yn feintiol neu’n ansoddol yn erbyn canlyniad penodol;
(b)
caiff fod yn fesuradwy dros ba gyfnod bynnag sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru;
(c)
caiff fod yn fesuradwy mewn perthynas â Chymru neu unrhyw ran o Gymru.
(3)
Caiff Gweinidogion Cymru adolygu a diwygio’r dangosyddion perfformiad ar unrhyw adeg.
(4)
Pan fydd Gweinidogion Cymru yn diwygio’r dangosyddion perfformiad o dan is-adran (3), rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol—
(a)
cyhoeddi’r dangosyddion fel y’u diwygiwyd, a
(b)
gosod copi ohonynt gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.
(5)
Cyn cyhoeddi dangosyddion cenedlaethol (gan gynnwys dangosyddion a ddiwygir o dan is-adran (3)), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau y maent yn eu hystyried yn briodol.