xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Mesur perfformiad tuag at gyflawni diben y Ddeddf honLL+C

11Dangosyddion cenedlaetholLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)cyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y gellir eu cymhwyso at y diben o fesur cynnydd tuag at gyflawni diben y Ddeddf hon;

(b)gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.

(2)O ran dangosydd cenedlaethol—

(a)rhaid iddo gael ei fynegi fel gwerth y gellir ei fesur neu nodwedd y gellir ei mesur yn feintiol neu’n ansoddol yn erbyn canlyniad penodol;

(b)caiff fod yn fesuradwy dros ba gyfnod bynnag sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru;

(c)caiff fod yn fesuradwy mewn perthynas â Chymru neu unrhyw ran o Gymru.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru adolygu a diwygio’r dangosyddion perfformiad ar unrhyw adeg.

(4)Pan fydd Gweinidogion Cymru yn diwygio’r dangosyddion perfformiad o dan is-adran (3), rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol—

(a)cyhoeddi’r dangosyddion fel y’u diwygiwyd, a

(b)gosod copi ohonynt gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.

(5)Cyn cyhoeddi dangosyddion cenedlaethol (gan gynnwys dangosyddion a ddiwygir o dan is-adran (3)), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau y maent yn eu hystyried yn briodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 25(3)

I2A. 11 mewn grym ar 5.10.2015 gan O.S. 2015/1680, ergl. 2(e)