10Canllawiau i sefydliadau addysg bellach ac uwchLL+C
(1)Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi canllawiau i gyrff llywodraethu sefydliadau yng Nghymru o fewn y sector addysg bellach ynghylch sut y gall y cyrff gyfrannu at ymgyrraedd at ddiben y Ddeddf hon.
(2)Caiff [F1y Comisiwn] ddyroddi canllawiau i gyrff llywodraethu sefydliadau yng Nghymru o fewn y sector addysg uwch ynghylch sut y gall y cyrff gyfrannu at ymgyrraedd at ddiben y Ddeddf hon.
(3)Ond ni chaiff [F2y Comisiwn] ddyroddi canllawiau o dan yr adran hon—
(a)a gyfeirir at sefydliad penodol,
(b)mewn cysylltiad â chyrsiau neu raglenni ymchwil (gan gynnwys cynnwys cyrsiau neu raglenni o’r fath neu’r modd y maent yn cael eu haddysgu, eu goruchwylio neu eu hasesu),
(c)mewn cysylltiad â’r meini prawf ar gyfer derbyn myfyrwyr, neu
(d)mewn cysylltiad â’r meini prawf ar gyfer dethol a phenodi staff academaidd.
(4)Rhaid i gorff llywodraethu y dyroddir canllawiau iddo o dan yr adran hon roi sylw iddynt.
(5)Cyn dyroddi canllawiau o dan yr adran hon rhaid [F3i’r Comisiwn] ymgynghori â’r personau hynny sy’n briodol yn [F3ei farn ef].
(6)Rhaid i ganllawiau a ddyroddir o dan yr adran hon gael eu cyhoeddi.
(7)At ddibenion yr adran hon, mae sefydliad—
(a)yng Nghymru os yw ei weithgareddau yn cael eu cynnal yn gyfan gwbwl neu’n bennaf yng Nghymru,
(b)o fewn y sector addysg bellach os yw’n dod o fewn adran 91(3) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p.13) (“Deddf 1992”), ac
(c)o fewn y sector addysg uwch os yw’n dod o fewn adran 91(5) o Ddeddf 1992.
F4(8). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(9)Yn yr adran hon mae i “corff llywodraethu” yr ystyr a roddir i “governing body” gan adran 90 o Ddeddf 1992.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 10(2) wedi eu hamnewid (1.8.2024) gan Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (asc 1), a. 148(2), Atod. 4 para. 33(2)(b) (ynghyd ag a. 19); O.S. 2024/806, ergl. 2(k)(xvii) (ynghyd ag ergl. 28)
F2Geiriau yn a. 10(3) wedi eu hamnewid (1.8.2024 to the extent it omits the word “HEFCW” ac substitutes it ynghyd â “the Commission”) gan Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (asc 1), a. 148(2), Atod. 4 para. 33(2)(c) (ynghyd ag a. 19); O.S. 2024/806, ergl. 3(c)(v) (ynghyd ag ergl. 28)
F3Geiriau yn a. 10(5) wedi eu hamnewid (1.8.2024 to the extent it omits the word “HEFCW” ac substitutes it ynghyd â “the Commission”) gan Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (asc 1), a. 148(2), Atod. 4 para. 33(2)(d) (ynghyd ag a. 19); O.S. 2024/806, ergl. 3(c)(vi) (ynghyd ag ergl. 28)
F4A. 10(8) wedi ei hepgor (1.8.2024) yn rhinwedd Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (asc 1), a. 148(2), Atod. 4 para. 33(2)(e) (ynghyd ag a. 19); O.S. 2024/806, ergl. 2(k)(xvii) (ynghyd ag ergl. 28)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 10 mewn grym ar 29.6.2015, gweler a. 25(2)