Cyflwyniad
1Diben y Ddeddf hon
(1)
Diben y Ddeddf hon yw gwella—
(a)
trefniadau ar gyfer atal trais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol;
(b)
trefniadau ar gyfer amddiffyn dioddefwyr trais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol;
(c)
y cymorth i bobl yr effeithir arnynt gan drais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
(2)
Gweler adran 24 am y diffiniadau o “trais ar sail rhywedd”, “cam-drin domestig” a “trais rhywiol”.